Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar.

Read more

Ffilmiau Chapter 30 Mai – 5 Mehefin

  • Published:

Dewch â'r teulu cyfan i weld y glasur o’r 90au, Babe, ac i ddathlu pen-blwydd y ffilm yn 30 oed!

Gwyliwch bennod olaf Cyfres 2 Doctor Who, The Reality War, ar y sgrin fawr! Mae'r dangosiad yn dechrau am 6pm gyda Wish World, ac yna'r bennod olaf, The Reality War.

Mae tymor David Lynch wedi hen ddechrau; yr wythnos yma rydyn ni’n dangos Penodau 2.9 a 2.10 o Twin Peaks! Bydd dangosiadau gyda chapsiynau ar ddydd Mawrth.

Dewch i ddathlu’r ffilmiau byrion LHDTCRhA+ gorau a wnaed yng Nghymru yn ystod Gwobr Ffilmiau Cwiar Chapter. Bydd y ffilmiau ar y rhestr fer yn cael eu dangos yn nigwyddiad arbennig MovieMaker Chapter, a bydd y ffilm fuddugol yn rhan o Raglen Goreuon Prydain yng Ngŵyl Gwobrau Iris a gaiff ei dangos ar Channel 4!