
Film Academy Grantiau Ffilm Ficro
- Published:
Grantiau gwerth £1000 ar gael i wneuthurwyr ffilmiau ifanc rhwng 16 a 25 oed o Gymru /yng Nghymru allu creu ffilm ficro!
Mae Academi Ffilm y BFI a Chapter yn cynnig grantiau o £1000, ynghyd â sesiynau mentora gan weithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant, i wneud ffilm ficro hyd at 100 eiliad o hyd.
Mae’r cyfle ar gael i wneuthurwyr ffilmiau ifanc rhwng 16 a 25 oed (o 02.06.2025 ymlaen), a aned yng Nghymru neu sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Er mwyn gwneud cais, bydd angen y canlynol arnoch:
EICH STORI: Gall hyn fod yn grynodeb ysgrifenedig, cyflwyniad wedi’i recordio, neu hyd yn oed sgript ffilm lawn.
EICH CYNLLUN AR SUT I'W FFILMIO: Rhowch syniad i ni ynglŷn ag edrychiad a sain eich ffilm. Gallwch wneud hyn drwy greu taflen teimladau, brasluniau, fideo hyrwyddo byr, neu beth bynnag sy’n gweithio orau i chi.
EICH CYLLIDEB: Dadansoddiad o sut y byddwch yn defnyddio’r £1000 i wireddu eich gweledigaeth.
Gall ceisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, Saesneg, neu Iaith Arwyddion Prydain. Does dim angen unrhyw gymwysterau na phrofiad blaenorol o wneud ffilmiau arnoch, ond dylai’r prosiect rydych chi’n ei gyflwyno fod yn rhywbeth y gallech chi fod yn barod i’w saethu yn ystod y 3 mis nesaf.
Bydd y ceisiadau’n cael eu gwerthuso ar gryfder a chyflawnadwyedd y syniad, ac rydym yn annog ceisiadau gan grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yn y diwydiant ffilm ar hyn o bryd. Nid yw derbynwyr blaenorol grantiau llawn yn gymwys i wneud cais am y rownd ariannu hon.
Gwnewch gais yma: https://form.typeform.com/to/t....
Y dyddiad cau yw canol dydd, dydd Llun 2 Mehefin 2025. Unrhyw gwestiynau? E-bostiwch [email protected].
Pob lwc!
Mae digwyddiadau’r BFI Film Academy Nghymru yn cael eu darparu gan Chapter a’u cefnogi gan gyllid y Loteri Genedlaethol.