Taflen Ffilmiau – Dydd Gwener 9 Awst
O’r ffilmiau indi newydd i’r rhai prif ffrwd a mwy, mae ganddon ni chwip o raglen sinema yr wythnos yma!
- Published:
Mae rhaglenni arbennig yn rhedeg, gan gynnwys rhaglen Sinema Slime Mother sydd wedi’i rhaglennu gan Abi Palmer i gyd-fynd â’r arddangosfa sydd yn yr oriel ar hyn o bryd, rhaglen Arswyd iasol yr haf, a rhaglen Sinema Araf yr haf. Dylai fod rhywbeth i bawb!
Ydych chi’n gofalu am un bach? Mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch bob bore Gwener! Gall rhieni/gofalwyr sydd â phlentyn o dan flwydd oed fwynhau ffilm heb boeni am darfu ar eraill. Mynediad am ddim i fabanod. Dim baban, dim mynediad. Ac mae ganddon ni ffilmiau i’r teulu am bris isel ac am ddim, a phecynnau cinio am ddim i’r rhai o dan 18 oed drwy gydol gwyliau’r haf.
Hwyl i’r teulu yn Chapter!
Yr haf yma mae ganddon ni wledd o weithgareddau anhygoel i gadw’r rhai bach yn brysur. O becynnau cinio am ddim, perfformiadau ac arddangosfeydd, i ffilmiau a gweithdai, cymerwch olwg ar y rhaglen fywiog i blant o bob oed allu ei mwynhau gyda’i gilydd!
Haf o Sinema Araf
Yr haf yma, mae ganddon ni ffilmiau saethiadau hir i gyd-fynd â’r diwrnodau hir, wrth i ni gysgodi yn y sinema rhag y glaw mân a’r haul mwll gyda chlasuron myfyriol a ffilmiau newydd o’r mudiad Sinema Araf.
Slime Mother
Pam bod yn wlithen? Ar draws arddangosfa, digwyddiadau a rhaglen sinema’r artist Abi Palmer, rydych chi’n cael eich gwahodd i brofi byd o gwiardeb amryliw a ffyrdd mwy-na-dynol o fod a fydd yn eich gadael yn teimlo ychydig yn fwy gwlithenaidd.