Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Queer Short Film Prize 2024

Mae ceisiadau ar gyfer Gwobr Ffilm Fer Gwiar Chapter 2024 nawr ar agor! Fis Mai, rydyn ni’n dathlu’r ffilmiau byrion LHDTCRhA+ gorau a wnaed yng Nghymru. Mae Chapter yn bartner enwebu ar gyfer Ffilm Fer Orau Prydain yr @irisprize, ac rydyn ni’n chwilio am ffilm fer LHDTCRhA+ i’w henwebu o’n rhanbarth ni.

Bydd y ffilmiau ar y rhestr fer yn cael eu dangos mewn dangosiad arbennig MovieMaker Chapter nos Lun 20 Mai, a bydd y ffilm sy’n cael ei dewis gan Chapter yn rhan o raglen Goreuon Prydain yng Ngŵyl Gwobrau Iris ac yn cael ei dangos ar Channel 4 a Film4.

Mae’n rhaid i bob cais fod yn 39 munud neu lai, a dylai fod am, ar gyfer, neu o ddiddordeb i gynul­leid­faoedd lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsry­weddol neu ryng-ryw, ac mae’n rhaid ei bod wedi’i chwblhau ers 1 Mehefin 2022. Mae croeso i ffilmiau sydd wedi cael eu dangos o’r blaen yn Chapter MovieMaker.

Y dyddiad cau yw dydd Mawrth 30 Ebrill 2024. Anfonwch gyfl­wyniadau i moviemaker@​chapter.​org. Dylent fod yn ffeiliau .mp4 neu .mov ansawdd-HD, neu’n DCP.

Mae’r telerau llawn i’w hystyried ar gael yma: https://​irisprize​.org/​s​u​b​m​i​s​s​i​o​n​-​t​e​r​m​s​-​c​o​n​d​i​t​ions/

Mae’r tocynnau am ddim ac rydyn ni’n argymell archebu ymlaen llaw (dolen yn y bio). Gallai’r rhaglen gynnwys deunydd cryf sydd ond yn addas i bobl dros 18 oed.

  • Published: