Gwybodaeth Hygyrchedd Slime Mother
Rydyn ni am i bawb sy’n dod i weld Slime Mother deimlo bod croeso iddyn nhw.
Dyma restr o wybodaeth hygyrchedd er mwyn eich helpu i gynllunio eich ymweliad.
Os oes gennych chi angen hygyrchedd nad yw ar y rhestr, anfonwch e‑bost neu ffoniwch Chapter enquiry@chapter.org | 029 2031 1050
___
Ar gyfer lansiad yr arddangosfa, mae tri opsiwn i chi fynd iddo.
Dydd Gwener 19 Gorffennaf
4 – 6pm: digwyddiad gyda masgiau a dim persawr. Bydd synau’n dawelach i greu awyrgylch mwy ymlaciol.
6 – 8pm: digwyddiad mwy prysur gyda darlleniad byw a bar talu.
Dydd Sadwrn 20 Gorffennaf
12pm: taith ar-lein gan Abi gyda darlleniad byw. Mae capsiynau a dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar gael.
Bydd y digwyddiad yn cael ei recordio ac ar gael ar-lein ar ôl y digwyddiad, gyda chapsiynau a Iaith Arwyddion Prydain
___
Symudedd
Mae gan Chapter fynediad gwastad a lifftiau drwy’r adeilad. Mae toiledau â mynediad addas i gadair olwyn ar bob llawr.
Mae’r arddangosfa a’r caffi ar y llawr gwaelod.
Mae gan yr arddangosfa seddi ym mhob ystafell.
___
Hygyrchedd synhwyraidd
Mae modd gofyn i ni ddod â lefelau sain a goleuo i lawr.
Mae bagiau synhwyraidd, amddiffynwyr clustiau, a chymhorthion synhwyraidd, gan gynnwys teganau ffidlan, ar gael.
Mae gan yr arddangosfa ddisgrifiadau sain drwy god QR a phenwisg.
Mae canllawiau’r arddangosfa ar gael mewn print bras a fformat hawdd ei ddarllen.
Mae gan y ffilm yn yr arddangosfa ddehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar y sgrin.
___
Iaith Arwyddion Prydain
Dydd Sadwrn 7 Medi — Bydd dwy daith yn yr adeilad gyda chyflwyniad Iaith Arwyddion Prydain, a gallwch archebu lle drwy ein gwefan.
___
Diogelwch Covid
Bob dydd Iau rhwng 3pm a 5pm, gofynnwn i chi wisgo masg yn yr oriel er mwyn galluogi ffrindiau ag imiwnedd isel i ymweld yn ddiogel.
Mae gan y caffi ardal eistedd awyr agored.
- Published: