Uchafbwyntiau mis Medi
- Published:
Y mis yma, rydyn ni’n croesawu Gŵyl Ddiwylliannol a Ffilmiau Wcráin i ddathlu diwylliant a diaspora Wcráin yma yng Nghymru.
Peidiwch â methu pennod olaf cyfres Twin Peaks: The Return a fydd yn cloi ein marathon epig. Bachwch eich tocynnau am £5 a suddwch i’n seddi melfed coch.
Dyma hefyd eich cyfle olaf i weld Meadowsweet Palisade, sef ein harddangosfa ddeinamig o waith ffilm, sain a cherflunwaith gan Jenő Davies a Iolo Walker. Yn cau 7 Medi.
Ymunwch â Sophie Mak-Schram a’i chydweithwyr ar 12 Medi i ddathlu To Shift a Stone, gosodwaith newydd yn y caffi bar a’r hysbysfwrdd. Arddangosfa ddwy ran yma ac yn Amgueddfa Cymru yw hon, sy’n archwilio sut mae pŵer yn cael ei brofi, ei rannu a'i herio.
Ymgollwch yn Shimmering at the edge, sef ein tymor perfformiadau byw cyffrous ar gyfer yr hydref/gaeaf sy’n cymylu’r ffiniau rhwng ffurf a ffantasi.
Mae bwydlen newydd y gegin yn lansio 15 Medi! Bydd yna glasuron swmpus fel cawl cig oen, a llu o brydau bach blasus. Dilynwch ni ar Instagram i fod gyda’r cyntaf i weld ein prydau newydd.
Ydych chi rhwng 16 a 30 oed? Ymunwch â Chlwb Chapter i gael tocynnau sinema, theatr a digwyddiadau am £5 yn unig, a 10% oddi ar fwyd a diod meddal yn ein caffi.
Ac yn olaf, gwnewch nodyn i gofio y bydd Gŵyl Ffilmiau Llundain y BFI 2025 yn dechrau ar 8 Hydref. Eleni, bydd Ffrindiau Chapter yn cael mynediad cynnar at docynnau! Os nad ydych chi’n aelod, am beth ydych chi’n aros? Ymunwch am £45 y flwyddyn.