Events

CAF 2026: Digital First Panel – New Routes Beyond Broadcast

  • 45m

Nodweddion

  • Hyd 45m

14+

Mae ein panel yn siarad am lwyfannau, cynulleidfaoedd a modelau ariannu newydd.

Mae’r tirlun animeiddio wedi newid llawer yn y blynyddoedd diwethaf. Gyda chymaint o lwyfannau newydd a ffyrdd newydd o gyrraedd cynulleidfaoedd, mae crewyr yn dod o hyd i ffyrdd newydd o ddatblygu a rhannu eu gwaith y tu hwnt i ddarlledu traddodiadol.

Mae’r panel yma’n archwilio gwahanol fodelau i gyrraedd cynulleidfaoedd ar lwyfannau digidol, ble mae’r cyfleoedd, sut mae crewyr yn cael sylw i’w prosiectau, sut olwg sydd ar fodelau ariannu nawr, a pha sgiliau a strategaethau sydd eu hangen i lwyddo yn y tirlun esblygol yma.

Gyda’r ymgynghorydd dosbarthu digidol profiadol Laura Taylor-Williams yn cyflwyno, bydd y sgwrs yn edrych ar sut gall animeiddwyr fod yn fwy masnachol graff, deall eu cynulleidfaoedd, a gwneud y gorau o lwyfannau digidol – o ddatblygu prosiectau gwreiddiol, i adeiladu dilynwyr, a dod o hyd i lwybrau newydd i’r farchnad.

Bydd gan y digwyddiad yma gapsiynau byw gan Sheryll Holley.

Share