Nodweddion
- Hyd 2h
'With shades of Joanna Newsom's dynamic originality, Elanor Moss has a stark subtlety that bowls you over in its intensity.' – CLASH
'The biggest secret weapon in British folk right now” – Far Out Magazine
Ar ôl teithio gyda bandiau fel Foxwarren (Andy Shauf), Flyte, a Christian Lee Hutson, mae Elanor Moss yn rhyddhau ei halbwm gyntaf The Knife, The Needle drwy Merge Records. Fe’i recordiwyd yn fyw i dâp dros gyfnod o ddeuddydd, ac mae’r albwm yn dwyn i gof arddull gignoeth artistiaid fel Sibylle Baier, a synwyrusrwydd barddonol y mawrion gwerin-seicedelig a fu. Record anarferol a thywyll yn llawn epiffanïau tawel.
“Oh and the way that it feels
To know you
Oh and the way it reveals
I don’t know you”
Dyna ddechrau “The Way That It Feels,” trac olaf albwm gyntaf hyd llawn Elanor Moss, The Knife, The Needle, sydd allan 21 Awst 2026 ar Merge Records. Mewn dwy gwpled, a gaiff eu canu dros sŵn cân yr adar a gitâr glasurol Moss, mae’n llwyddo i gyfleu bydysawd cyfan a gaiff ei ffurfio yn y cysylltiad rhwng dau berson. Mae’r cwpledi’n adlewyrchu ei gilydd ac yn hongian, fel llen, dros weddill y gân. Er gwaethaf amser, agosrwydd, cariad, tynerwch, a’r ffordd y gallai’r pethau hynny newid person a pherthynas, mae yna, meddai, ffaith gadarn i’r pethau yma: beth bynnag mae hi’n ddysgu ohonyn nhw, bydd bob amser rhywbeth anhysbys fan draw.
Dawn “drawsatlantig emosiynol” gyda gwreiddiau teuluol yn Swydd Lincoln a Baltimore, a dylanwad gwerinol o gartrefi cyfarwydd a theimladwy.
Mae eich tocyn yn mynd yn bellach na’r sioe – mae’n cefnogi artistiaid yn uniongyrchol a’r gwaith rydyn ni’n ei wneud. Diolch!
Times & Tickets
-
Dydd Iau 8 Hydref 2026
More at Chapter
-
- Cynnal yn Chapter
The Arts Society
-
- Gweithdai
Anushiye Yarnell: Archipelago Movement Class
Yn dyner, yn hyblyg, ac yn agored i bob lefel profiad.
-
- Perfformiad
CRABULOUS
Gŵyl Undod Hijinx
Bydd Hijinx yn mynd â’u sioe theatr stryd newydd sbon CRABULOUS!
-
- Perfformiad
A Musical Sharing (Work in Progress)
Ymunwch â ni am berfformiad cychwynnol Gŵyl Undod o sioe gerdd newydd sbon sy’n cael ei datblygu gan House of Deviant, band Vaguely Artistic, Gagglebabble, a Theatr Sherman.