Nid yw ein lifft ar gael ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio i'w drwsio cyn gynted ag sy'n bosib. Mae'n ddrwg gennyf am yr anhwylustod.

Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau 9 Mai – 15 Mehefin. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar. Gallwch nawr wneud pryniadau yn bersonol, dros y ffôn ac ar-lein. Diolch am eich amynedd.

Read more

Performance

Ex-Easter Island Head + support from Beauty Parlour

£0 - £12

Nodweddion

Casgleb cerddoriaeth arbrofol o Loegr yw Ex-Easter Island Head, sy’n cyfansoddi ac yn perfformio cerddoriaeth ar gyfer gitâr drydan corff cadarn, offerynnau taro ac offerynnau eraill. Mae’r grŵp yn chwarae sawl gitâr drydan sy’n cael eu haddasu drwy baratoadau mecanyddol a thechnegau ymestynnol, gan greu perfformiadau hypnotig sy’n gyfoeth o ailadrodd, dronau crynedig, a dyfeisgarwch melodig drwy ddulliau sy’n bwrpasol gyfyngedig.
Cafodd eu halbwm ddiweddaraf, Norther (2024), ei galw’n albwm y flwyddyn gan brif wefan ddiwylliannol annibynnol Ewrop, The Quietus. Mewn cyfweliad yn yr un flwyddyn yn y Guardian, dywedwyd fod eu cerddoriaeth “gyda’r arbrofion mwyaf beiddgar ym myd cerddoriaeth Prydain”.

Mae tocynnau bargen gynnar ar gael tan 8 Awst. Defnyddiwch y cod EARLYBIRD6 ar y cam talu.

"Churning pulses, alternate tunings and dense harmonic worlds... all the strings being heard at once"–The New York Times
“Repetition and rumbling resonances bringing to mind Rhys Chatham's seminal works with tone and John Cage's rhythmic sensibilities”Pitchfork
“A three chord punk mission statement turned into a neo-classical manifesto”The Wire
“You must see this group. They are minimalist noise art but come on like entertainment. Absolutely captivating, classy, beautiful and sublime”Stewart Lee

Amdan yr artist...

Casgleb cerddoriaeth arbrofol o Loegr ywEx-Easter Island Head, sy’n cyfansoddi ac yn perfformio cerddoriaeth ar gyfer gitâr drydan corff cadarn, offerynnau taro ac offerynnau eraill. Mae’r grŵp yn chwarae sawl gitâr drydan sy’n cael eu haddasu drwy baratoadau mecanyddol a thechnegau ymestynnol, gan greu perfformiadau hypnotig sy’n gyfoeth o ailadrodd, dronau crynedig, a dyfeisgarwch melodig drwy ddulliau sy’n bwrpasol gyfyngedig.
Mae eu recordiau a’u perfformiadau byw wedi cael llawer o sylw gan gyhoeddiadau fel The Wire, The Quietus a’r New York Times. Maen nhw wedi cael eu cymharu’n ffafriol gyda Steve Reich, Glenn Branca a John Cage, ac mae cerddoriaeth y grŵp wedi cael ei chanmol am ei chymysgedd o bŵer curiadol, cynhesrwydd emosiynol, ac arbrofi chwareus.

Share

Times & Tickets