Film

Gentle Angry Women

12A
  • 2025
  • 1h 3m
  • UK

£5 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Barbara Senti
  • Tarddiad UK
  • Blwyddyn 2025
  • Hyd 1h 3m
  • Tystysgrif 12A
Yn 1981, daeth miloedd o fenywod at ei gilydd ar Gomin Greenham i brotestio yn erbyn arfau niwclear. Daeth eu gwrthsafiad beiddgar a di-drais yn symbol pwerus o ymgyrchu ffeministaidd a gwrth-niwclear – yn stori o ddewrder sy’n dal i daro tant hyd heddiw. Heb wybod am yr ymgyrch hiraf dan arweiniad menywod yn hanes Prydain, mae cenhedlaeth newydd o ymgyrchwyr benywaidd ifanc – Poppy o Gasnewydd, Xanthe ac Evie – yn dechrau ar orymdaith 110 milltir o Gaerdydd i Greenham, i ddathlu deugain mlwyddiant gan ddilyn ôl-troed yr arloeswyr yma. Drwy sgyrsiau pwerus sy’n croesi cenedlaethau gyda’u cyd-ymgyrchwyr, mae’r ffilm yn datgelu myfyrdodau amserol am obaith, ymgyrchu, a newid.

 + Ymunwch â ni mewn trafodaeth ar ôl y ffilm gyda Poppy Stowell-Evans a Barbara Senti.

____
Oherwydd amodau ein trwydded, ni allwn ganiatáu pobl ifanc o dan 18 oed yn yr adeilad ar ôl 10.30pm. Dylech wirio amser gorffen unrhyw ffilm, perfformiad neu ddosbarth cyn archebu. Ewch i’n tudalen Teuluoedd i gael rhagor o wybodaeth cyn ymweld â ni.

Share

Times & Tickets