Performance

Natifah White: Shared Shelves

Reciprocal Gestures: symudiad mewn deialog

Am ddim

Nodweddion

Rhaglen ddeuddydd o ddawns a symudiad estynedig yw Reciprocal Gestures: symudiad mewn deialog, sy’n cynnull artistiaid a chymunedau i archwilio potensial cynhaliol a thrawsnewidiol arferion ar sail symudiad.

Mae’r artist Natifah White yn cyflwyno Rhannu Silffoedd, sef llyfrgell dros dro sy’n cynnig casgliad o ddeunydd darllen ac adnoddau wedi’u cyrchu gan y gymuned, gan gynnwys sgoriau dawns/symud, gweithiau digidol, llyfrau a mwy. 
 
Gan ddechrau gyda’r cwestiwn: Beth yw ystyr cael eich annerch? Mae hyn yn gweithredu fel egwyddor trefnu ar gyfer y llyfrgell ac yn ymateb i thema’r ŵyl o ddeialog/deuawdau/sgwrs. Wedi’u hysbrydoli gan draddodiadau galw ac ymateb, mae’r deunyddiau a gesglir yma’n cario eu ffurf(iau) eu hunain o annerch.   

Drwy hyn, mae’r llyfrgell yn chwarae gyda mathau estynedig o ddarllen a sut gellid archwilio hyn ar draws gwahanol ffurfiau a fformatau.  

___

Ynglŷn â'r artist 

Artist dawns sy’n byw yn Nottingham yw Natifah White, sy’n cymhwyso egwyddorion symud i ail-ddychmygu systemau archifau a llyfrgelloedd.  Mae hi’n disgrifio ei gwaith fel gwe cyfeiriadol sy’n cwmpasu perfformiad (mae credydau yn cynnwys: Seke Chimutengwende, Florence Peake, SERAFINE 1369 ac Elinor Lewis/ Joe Garbett) ac arfer personol yn seiliedig ar gwestiynau arweiniol.

Cwestiwn sy’n angori ei gwaith ar hyn o bryd yw: Sut ydyn ni’n mynd â’r anfaterol i’r materol? (cyf. Joseph Zeal-Henry). Mae’n defnyddio hyn i ail-ddychmygu systemau archifau/llyfrgelloedd, gan feddwl am sut gellid profi’r strwythurau yma drwy symudiad a gofal ar y cyd. Mae ei hymagwedd yn berthynol – mae ganddi ddiddordeb mewn dysgu gan eraill, adeiladu ar arferion sy’n bodoli, a dod o hyd i ffyrdd sy’n cario’r gwaith hwnnw yn ei flaen.

Mae’r ymholiadau yma’n ehangu i’w digi-arfer, thisishappening, sy’n arbrofi gydag archifo fel “arfer ymhelaethu” gan ddefnyddio priodoli, ailadrodd a rhannu fel “strategaethau o undod”.  

Share