Performance

National Dance Company Wales: Rendering

Reciprocal Gestures: symudiad mewn deialog

  • 30m

£0 - £10

Nodweddion

  • Hyd 30m
Rhaglen ddeuddydd o ddawns a symudiad estynedig yw Reciprocal Gestures: symudiad mewn deialog, sy’n cynnull artistiaid a chymunedau i archwilio potensial cynhaliol a thrawsnewidiol arferion ar sail symudiad.

Wrth i chi ymgartrefu yn y caffi gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, mae perfformiad arbrofol byrfyfyr yn mynd rhagddo o’ch cwmpas.

Mae symudiadau pob dydd yn symud yn ôl ac ymlaen o’r cyfarwydd. Mae symudiadau’n ailadrodd, yn gwahanu ac yn dychwelyd at ei gilydd mewn ffyrdd annisgwyl. Bydd patrymau’n ymddangos ac yn diflannu, a dilyniannau newydd yn ffurfio ac yn disgyn i ffwrdd.

Nid oes unrhyw ddau berfformiad o’r gwaith hwn yr un fath, sy’n gwneud bob profiad yn unigryw.

Ewch i nôl diod a gadael i’r foment hon eich swyno.

Symudiad a pherfformiad
: Sonny Connor-Bell, Alys Davies, Jill Goh Riz Golden, Ed Myhill, Andrew Lennox Scott.
Coreograffi a Sain: Bakani Pick-Up

___

Ynglŷn â'r artist

Ganwyd Bakani Pick-Up yn Bulawayo, Zimbabwe, a symudodd i'r DU yn 2005. Dechreuodd ei daith dawns yn Zimbabwe, lle bu'n ffodus i fynychu ysgolion a ddatblygodd ei frwdfrydedd am symudiad. Ar ôl cwblhau ei arholiadau Safon Uwch, hyfforddodd Bakani mewn Coreograffi ym Mhrifysgol Falmouth a Trinity Laban. Ymhlith yr artistiaid y bu'n gweithio â nhw ers iddo raddio mae Grace Wales Bonner, Anthea Hamilton, Theo Clinkard a Fevered Sleep. Ochr yn ochr â'i ymarfer symudiadau, gweithiodd Bakani fel Coreograffydd, Awdur, Darlithydd, Ymchwilydd a Rhaglennydd.  

Ers 2018, bu Bakani yn gweithio'n llawrydd fel Perfformiwr ac Athro, gan ehangu ei arbenigedd mewn addysgeg, llesiant creadigol, arweinyddiaeth, llywodraethiant a'r celfyddydau rhyngddisgyblaethol. Cyflwynwyd ei waith yn The Place (Llundain); Vienna Secession (Awstria); ac ar BBC Four. 

Yn 2018, sefydlodd Bakani Pick-Up Company, cwmni perfformiad coreograffig sy'n archwilio 'ffyrdd o fod.' Cefnogir ei waith gan The Place, Goethe Institute, British Council (Sbaen), Yorkshire Dance, FABRIC, Arts Council England a Dans Atelier (NED). 

Ar hyn o bryd, mae Bakani yn Ymddiriedolwr Cyswllt yn Yorkshire Dance ac yn Ymddiriedolwr yn Chisenhale Dance Space.

___

Cefndir Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn croesawu nodweddion unigryw lleisiau artistiaid o bob cwr o'r byd. Mae’n comisiynu cydweithrediadau artistig mentrus, gyda dawns wrth wraidd y gwaith. 

Rydym yn ysbrydoli pawb i symud drwy feithrin talent a phrofiad, gan alluogi syniadau newydd i ddod i'r amlwg a datblygu. 
Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn creu a chyflwyno gwaith dawns uchelgeisiol a hynod ddiddorol ledled y DU ac yn rhyngwladol.

Fel cwmni repertoire, mae’n creu gwaith gan amrywiaeth o goreograffwyr i adlewyrchu gwahanol safbwyntiau. Mae ei raglen artistig wedi'i hysgogi gan ymrwymiad i greu gwaith newydd, darganfod a datblygu artistiaid newydd ac ysbrydoli cynulleidfaoedd a chymunedau drwy brofiadau dawns cyfoethog o ansawdd dda.

Mae'r cwmni'n cynnwys dawnswyr rhagorol sydd â dealltwriaeth gyfoethog yn gorfforol ac sydd â synnwyr o gelfyddyd unigol, yn ogystal â thîm busnes a chreadigol hynod o dalentog. Mae'r cwmni'n perfformio yn ei gartref, sef Y Tŷ Dawns, ym Mae Caerdydd ac mewn lleoliadau eraill yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Mae’r gwaith mae’n ei wneud i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn dawns yr un mor bwysig, i fanteisio ar y buddion i lesiant a’r buddion lu eraill a ddaw gyda dawns ac mae’r rhaglen datblygu talent yn cefnogi'r rheini sy’n dyheu am gael gyrfa yn y byd dawns, boed ar y llwyfan neu oddi arno. Wrth alluogi arloesedd artistig ar bob cam o ddatblygiad gyrfa, mae’n ceisio gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ecoleg dawns amrywiol yng Nghymru.

Mae CDCCymru yn gosod llawer o leisiau a dulliau o gyflwyno dawns wrth wraidd ei waith, sy'n datblygu ein celfyddyd, ac yn edrych ar sut all dawns gyrraedd cynulleidfaoedd a chysylltu â nhw. Nod y cydweithrediadau unigryw hyn yw gwefreiddio, ysbrydoli, synnu a difyrru, gan gyflwyno cyfleoedd i gynulleidfaoedd na fyddent yn eu cael yn unman arall.

Mae’r perfformiad yma’n un Talwch Faint Allwch Chi. Dewiswch bris tocyn ar sail beth allwch ei fforddio.

Mae taliadau’n mynd yn uniongyrchol i gefnogi ein helusen, fel bod modd i ni weithio gydag artistiaid a’n cymuned i gynnig mwy o berfformiadau, arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau fel hyn yn y dyfodol.

Share

Times & Tickets