Performance

Iona Hannagan Lewis and Sam Hempenstall: f?ght f?ck

  • 1h

£5 - £12

Nodweddion

  • Hyd 1h
Rhaglen ddeuddydd o ddawns a symudiad estynedig yw Reciprocal Gestures: symudiad mewn deialog, sy’n cynnull artistiaid a chymunedau i archwilio potensial cynhaliol a thrawsnewidiol arferion ar sail symudiad.

Mae’r artistiaid Iona Hannagan Lewis a Sam Hempenstall yn eich gwahodd i f?ght f?ck, perfformiad gwaith-ar-waith a ddatblygwyd ar gyfer Reciprocal Gestures.

Gan blethu sain, gofod a choreograffeg reslo, mae’r artistiaid yn ymateb ac yn ailddychmygu hanesion cudd: arferion criwsio cwiar, traws a dyke. Mewn oes lle mae plismona cynyddol ar rywedd a mynegiant rhywiol, mae’r gwaith yn ystyried y berthynas rhwng awydd a rhyddid, gan gynnig cwiardeb fel arfer o greu ac ail-greu byd.

___

Ynglŷn â'r artistiaid

Dadi cyhyrau/jim bro anneuaidd traws-wrywaidd yw Sam Hempenstall (nhw/fe). Mae eu harfer yn ddefod byw o fasgio a dad-fasgio. Maen nhw’n defnyddio drag fel ffordd o wthio allan o’u hunain, ac i archwilio chwant mewn corff sy’n eang ac yn newidiol. Maen nhw’n symud i aros yn gysylltiedig drwy donau llethol dysmorffia’r corff.

Artist symudiad a chorff yng Nghaerdydd yw Iona Hannagan Lewis (nhw/hi). Maen nhw’n datblygu methodolegau cwiar safle-benodol ar gyfer creu symudiad, archwilio agosatrwydd, gofod, a moeseg/estheteg cyfranogiad. Maen nhw’n astudio cwrs Meistr mewn Dawns: Cyfranogiad, Cymunedau ac Ymgyrchu yn Ysgol Dawns Gyfoes Llundain.


Mae eich tocyn yn mynd yn bellach na’r sioe – mae’n cefnogi artistiaid yn uniongyrchol a’r gwaith rydyn ni’n ei wneud. Diolch!

Share

Times & Tickets