Digwyddiadau
Pamoja Disco Garden Party
- 8h
Am ddim
Nodweddion
- Hyd 8h
Clwb Disgo Pamoja yw un o gasglebau cerddoriaeth tanddaearol uchaf eu parch Caerdydd. Maen nhw wedi rhannu llwyfan gyda Gilles Peterson, Mr Scruff, Poly-Ritmo a llawer mwy mewn clybiau a gwyliau, ac maen nhw hefyd ymhlith y prin rai sydd wedi’u gwahodd i chwarae pob un o wyliau arbennig We Out Here.
Gan chwarae finyl yn unig, maen nhw’n estyn yn ddwfn i ganfod cymysgedd cyfoethog o disgo, enaid, ffync, bwgi, afrobeat, jazz a grŵfs byd-eang sy’n cadw cyrff yn symud a’r ysbryd yn uchel.
Os ydych chi wrth eich bodd yn darganfod cerddoriaeth anhygoel, cwrdd â phobl gyfeillgar, a dawnsio’n ddi-ofn, dyma’r parti perffaith i chi. Mae digwyddiadau Pamoja wedi’u seilio ar fod gyda’n gilydd, a chreu awyrgylch croesawgar lle mae carwyr cerddoriaeth hyd oes a dawnswyr tro cyntaf yn teimlo’r un mor gartrefol â’i gilydd.
Mae ein gardd yn gornel gudd arbennig yng Nghaerdydd; yn swatio ymhell o brysurdeb canol y ddinas, dyma’r lle perffaith ar gyfer sesiwn haf awyr agored gyda heulwen, awyr iach, a cherddoriaeth wych yn ein gofod diwylliannol ymlaciol. Gyda’n system sain ar ei newydd wedd, peirianwyr sain clodwiw, bwyd ardderchog, coctels a moctels blasus, a chriw da sydd yna am y rhesymau cywir, dyma’r holl gynhwysion am ddiwrnod perffaith o haf.
More at Chapter
-
- Cynnal yn Chapter
The Arts Society
-
- Digwyddiadau
Caffi Trwsio Treganna
Dewch ag eitemau trydanol bach, dillad, offer technoleg gwybodaeth, teganau, addurniadau, dodrefn bach, beiciau neu emwaith, ac fe fydd ein tîm o wirfoddolwyr yn barod i geisio eu trwsio.
-
- Digwyddiadau
Pub Quiz
Dewch â’ch tîm at ei gilydd ac ewch am y bar.
-
- Digwyddiadau
Drones Comedy Club
Llwyfan i’r doniau stand-yp newydd gorau ar ddydd Gwener cyntaf a thrydydd Dydd Gwener pob mis.