Performance

REWORK: John Rowley, Nicholas Perrin + Laura Phillips

  • 2h

£5 - £14

Nodweddion

  • Hyd 2h
Noson o sain, ffilm, a pherfformiadau testun arbrofol sy’n AILWEITHIO deunyddiau blaenorol mewn ffyrdd amrywiol. Gan yr artistiaid John Rowley, Nicholas Perrin a Laura Philips.

Rhan 1: Mae Listening Stations yn berfformiad ffilm a sain 16mm gan Laura Phillips estynedig sy’n archwilio sut y gall rhaglen ddogfen greadigol gynrychioli gwaddol gwleidyddol o dirwedd ddadleuol. Gan dynnu ar ymchwil o archifau CND Cymru, mae’n adfywio Gorymdaith Heddwch 1982 Caerdydd i Freudeth, Sir Benfro trwy ffilm wedi’i phrosesu â llaw, tafluniad byw, sain, a datganiad byrfyfyr. Trwy ail-weithio/ail-berfformio/ail-gofio, bydd y perfformiad yn plethu tirweddau cyfoes, recordiadau maes, tystiolaeth, archwilio militariaeth, côf, a thiroedd comin Cymru. Bydd y perfformiad yn blaenbrosesu mynediad, cadwraeth, a hanes cyfunol, gan ail-leoli’r archif fel gofod ar gyfer ail-gyffredinoli a myfyrio’n feirniadol.

Rhan 2: Mae Metamorphosis – Chaos and Creation yn gywaith newydd gan y perfformiwr a’r gwneuthurwr theatr o Gymru, John Rowley (Brith Gof. Forced Entertainment, good cop bad cop) a’r artist sonig o Ffrainc Nicolas Perrin. Ar gyfer y cyflwyniad yma, am un noson yn unig, mae’r artistiaid yn ailddychmygu Metamorphosis: Chaos and Creation, sef testun gan yr artist theatr, damcaniaethwr ac athro Mike Pearson (1949-2022) nad yw wedi’i berfformio’n flaenorol. Yn seiliedig ar magnum opus Ovid o’r wythfed ganrif, Metamorphosis, mae’r testun barddonol yn cyfleu golygfeydd o anhrefn, creu, trawsnewidiad, a chreu’r byd. Bydd sgôr electronig fyw wedi’i berfformio gyda gwrthrychau organig ac wedi’u mwyhau yn cael ei fyrfyfyrio mewn deialog â’r testun.

Rhoddwyd caniatâd i ddefnyddio’r testun drwy garedigrwydd Heike Roms Pearson.

Cefnogir gan Diaphonique, y gronfa Ffrengig-Brydeinig-Wyddelig ar gyfer cerddoriaeth gyfoes, mewn partneriaeth â SACEM, Ymddiriedolaeth Sefydliad Friends of the French, y Cyngor Prydeinig, Institut français, Institute français du Royaume-Uni, Centre National de la Musique, Culture Ireland a Fondation Salabert.

___

Ynglŷn â'r artistiaid

Perfformiwr, gwneuthurwr theatr ac artist amlddisgyblaethol sy’n byw yng Nghaerdydd yw John Rowley. Drwy gydol y 1990au a dechrau’r 2000au bu’n gweithio gyda’r cwmni theatr Brith Gof. Ers 2000 mae wedi bod yn berfformiwr cyswllt gyda Forced Entertainment. Yn 2023, enillodd John y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cyfansoddwr a pherfformiwr electronig byw o Ffrainc yw Nicholas Perrin, sy’n arbenigo mewn seinweddau electro-acwstig wedi’u creu o wrthrychau wedi’u mwyhau ac offerynnau hybrid. Fe yw cyfarwyddwr artistig y collectif L’Émoi Sonneur.

Mae Laura Phillips yn artist sy'n gweithio gyda ffilm ffotocemegol 16mm, sain a pherfformiad. Mae ei gwaith yn archwilio syniadaeth o ddarfodiad bwriadus, ansicrwydd a hanes cyfunol trwy groestoriad o gerddoriaeth weledol, sinema estynedig, a pherfformiad. Gan achub ac ail-weithio cynnwys analog a ddigidol, mae hi'n ymgysylltu syniadau am ethos cyffredin, ecoleg, a gwleidyddiaeth isadeileddau gwybodaeth. Yn ystod 2024, mi dderbyniodd Cymrodoriaeth Cymru Greadigol yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain ac mae ganddi waith wedi'i gadw o fewn Casgliad Cyngor y Celfyddydau Lloegr.

Share

Times & Tickets