Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan Sam Ahern
- Tarddiad UK
- Blwyddyn 2024
- Hyd 1h 10m
- Tystysgrif 12A
Yn y ffilm chwareus ac arnofiol yma, mae camera awtistig yn ail-hawlio’r gofod. Rydyn ni’n treulio amser gyda thestunau’r ffilm mewn straeon sy’n rhyngblethu – trefnydd clwb ffilmiau cwlt; menyw sy’n cymryd rhan mewn prawf diagnostig; gweithiwr gweinyddol ifanc yn masgio; ac ysbryd enigmatig. Mae’r ffilm nodwedd arbrofol a hybrid yma wedi’i chyd-greu gan gasgleb o artistiaid awtistig, y Neurocultures Collective, a’r gwneuthurwr ffilm Steven Eastwood. Gwahoddiad artistig i brofi sut beth yw byw gyda niwrowahaniaeth mewn byd prysur sy’n aml yn elyniaethus i bobl sy’n wahanol, a phosibilrwydd disglair o fyd sy’n cael ei lywio gan weledigaeth niwroamrywiol.
Gyda thrafodaeth i ddilyn gydag Academi Hijinx, rhwydwaith o actorion yng Nghymru sydd ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.
More at Chapter
-
- Cynnal yn Chapter
The Arts Society
-
- Ffilm
Effi O Blaenau
Mae bywyd menyw ifanc yn troi’n llawn gobaith ar ôl cwrdd â rhywun newydd yn y ddrama bwerus yma.
-
- Ffilm
Disclosure Day
Dyma ymgais i ddarganfod y gwir am fywyd estroniaid a pha mor bell byddai rhai’n mynd i’w guddio.
-
- Ffilm
Lesbian Space Princess
Mae cariad y Dywysoges Saira yn cael ei herwgipio yn y gomedi animeiddiedig gwiar a lliwgar yma.