Swyddi a Chyfleuoedd

Experimentica 2024: Galwad i'r Gwanwyn - Galwad Agored

Dyddiau cau: Dydd gwener 24 Tachwedd, 5yp.

Gŵyl gelf fyw dros bedwar diwrnod yw Experimentica, a gynhelir gan Ganolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, ac sy’n annog risg, cydweithio a chyfnewid – yr unig ŵyl o’r fath yng Nghymru. Mae hi wedi bod yn rhedeg ers dros ugain mlynedd, ac mae’r ŵyl ddwyflynyddol yma’n cynnig cyfle hanfodol i arferion celf fyw arbrofol a radical ffynnu.

Mae’r alwad agored yma’n croesawu cynigion gan artistiaid o wledydd Prydain ac Iwerddon sy’n ymwneud â themâu’r gwanwyn – boed hynny’n ddadfeiliad, yn drawsnewidiad, ymddangosiad o’r newydd, digymhellrwydd, defod, neu’r weithred o ymgynnull.

Nod yr ysgogiadau yma yw annog meddwl dychmygus, ac ni ddylent beri rhwystr i chi os nad yw eich arfer yn cyd-fynd â nhw’n union.   

Gallwch gynnig gwaith newydd, gwaith ar y gweill, neu waith sydd eisoes yn bodoli. Os cewch eich dewis, byddwch yn cael cynnig ffi rhwng £250 - £2000 a fydd yn cael ei phennu mewn sgwrs gyda thîm yr ŵyl, yn dibynnu ar raddfa a chwmpas y gwaith. 

Mae ein diffiniad o gelf fyw/perfformio yn eang, ac mae’n cynnwys unrhyw gysylltiad sy’n perfformio gweithred neu sy’n gwahodd cyfnewid. Gallai hyn fod yn berfformiad sy’n cynnwys symud, sain, lleferydd, dawns, cerddoriaeth, goleuo, gwrthrychau, a delweddau, yn ogystal â gweithredoedd perfformiadol fel offrymau post, ymyriadau digidol, teithiau tywys, defodau preifat a chyhoeddus, a gweithredoedd o orffwys a maeth.  

Rydyn ni’n chwilio am gynigion sy’n feiddgar ac yn chwareus, sy’n ymgysylltu’n ddychmygus â’n hadeilad, ein hardal leol a’n cymunedau, ac sy’n herio’r syniad o’r hyn all celf fyw/perfformio fod. Beth mae bod gyda chynulleidfa yn ei olygu? Sut gall y cyfarfyddiad neu’r cynulliad fod yn lle i feddwl yn feirniadol ac ar y cyd?

Am wybodaeth mwy, ac wneud cais, ewch i'r tudalen Experimentica yma

Cynorthwydd Codi Arian

Dyddiau Cau: Dydd Llun 4 Rhagfyr

Cyfweliadau: Wythnos 11 Rhagfyr

Contract: Parhaol, llawn amser (yn amodol ar gyfnod prawf o 3 mis).

Oriau gwaith: 40 awr yr wythnos (TOIL) gan gynnwys egwyl cinio o awr â thâl. Bydd rhywfaint o waith ar y penwythnosau a gyda’r nos yn angenrheidiol.

Cyflog: £23,005

Lleoliad: Byddwch wedi’ch lleoli yn Chapter, Caerdydd, ond rydyn ni’n cynnig model hybrid sy’n golygu y gallwch weithio gartref hefyd, lle bo’n bosib.

Adran: Codi Arian

Yn atebol i: Pennaeth Codi Arian

Prif ddiben y swydd yw cefnogi’r Pennaeth Codi Arian ym mhob agwedd ar waith codi arian strategol Chapter er mwyn cyflawni targedau incwm blynyddol ar gyfer y sefydliad.

Byddwch yn gweithio ar draws ymchwilio a rhagamcanu, trin, stiwardiaeth, datblygu cynigion, adrodd a rheoli data i gynhyrchu incwm ar draws ymddiriedolaethau a sefydliadau, ffynonellau statudol, unigolion a phartneriaethau busnes.

Byddwch yn rheoli ein cynlluniau aelodaeth gan sicrhau bod y perthnasau hynny’n cael eu meithrin i gynyddu buddsoddiad rhanddeiliaid yn y sefydliad, ein hethos cymunedol a’n huchelgais o ran y rhaglen.

Bydd gofyn i chi hefyd sefydlu systemau cywir i sicrhau bod cofnodion yn cael eu cynnal, a bod yr holl waith yn cael ei fonitro a’i werthuso yn y ffordd fwyaf effeithlon, a chi fydd yn gyfrifol am baratoi adroddiadau ar gyfer dyfarniadau llwyddiannus yn unol ag amserlenni y cytunir arnynt.


Rydyn ni’n diogelu gweithle sy’n rhydd rhag pob math o wahaniaethu ac yn hyrwyddo tegwch ar draws ein sefydliad. Rydyn ni wedi’n ffurfio ar sail cyfraniadau gwerthfawr, gwybodaeth a phrofiad yr holl staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr, ac rydyn ni’n annog pawb sydd â diddordeb mewn gyrfa neu gyfle creadigol i ddilyn ein Cod Ymddygiad.

Rydyn ni’n ganolfan i bawb, ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb. Mae ein gweithdrefn ymgeisio yn ddienw.

Rydyn ni’n gyflogwr cefnogol a chyfeillgar, ac yn cynnig oriau gweithio hyblyg a gweithio hybrid lle bo’n bosib. Rydyn ni’n gyflogwr cyflog byw ac mae ein buddion staff yn cynnwys:

  • 5.6 wythnos o wyliau y flwyddyn, gan gynnwys gwyliau banc, pro rata ar gyfer swyddi rhan amser
  • Dau docyn sinema am ddim y misCinio am ddim pan fyddwch yn gweithio yn yr adeilad20% oddi ar fwyd a diod yn y Caffi Bar
  • Cynllun Cymraeg Gwaith
  • Cynllun pensiwn cyfrannol, y byddwch yn cael eich ymrestru iddo’n awtomatig (yn dibynnu ar amodau’r cynllun). Mae’r cynllun yn eich galluogi i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad gan ddefnyddio eich arian eich hunan, ynghyd â rhyddhad treth a chyfraniadau gan Chapter
  • Tâl mamolaeth a mabwysiadu uwch ar ôl blwyddyn o wasanaeth
  • Mynediad at Raglen Cynorthwyo GweithwyrTe/coffi am ddim o’r Caffi Bar
  • Cefnogaeth ar gyfer datblygiad parhaus
  • Gofal Llygaid ar gyfer Gwaith Cyfarpar Sgrin Arddangos
  • Rheseli beiciau diogel
  • Parcio i staff

Mae’r holl ddisgrifiadau swydd i’w gweld yn llawn fel ffeil i’w lawrlwytho isod.

Er mwyn gwneud cais am un o’n swyddi, llenwch y ffurflen gais, y gallwch ei lawrlwytho isod, a’i dychwelyd i [email protected]. Llenwch ffurflen Cyfle Cyfartal ar gyfer unrhyw yrfa neu gyfle creadigol a’i chyflwyno cyn y dyddiad cau yma.

Mae pob croeso i unrhyw gwestiynau am unrhyw swydd neu gyfle, a gallwch eu hanfon at [email protected]