Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Experimentica 2024: GALWAD I’R GWANWYN

Experimentica 2024, yr ŵyl celf fyw ddwy­flynyddol sy’n rhedeg dros bedwar diwrnod, rhwng 11 ac 14 Ebrill. Bydd y foment fywiog yma ar gyfer arfer arbrofol yn arddangos gwledd o waith comisiwn newydd gyda pherf­formiadau, ail-greadigaethau, gweithdai, cynulliadau a dangosiadau

  • Published:

NOS IAU

Yn dechrau’r ŵyl mae gwaith comisiwn nodedig gan y gasgleb celfyddydau byw o Gaerdydd, SCORE, sy’n cynnwys aelodau o’r eiconig tactileBOSCH. Mae MAES CHWARAE yn dechrau yn Stiwdio Seligman am 7pm cyn lledu drwy’r adeilad. Mae Beauty Parlour (yn y llun) yn ychwanegu ymdeimlad o anhrefn de Cymru i gychwyn yr ŵyl, gyda set DJ aml-genre sy’n parhau’n hwyr i’r nos.

DYDD GWENER

Yn croesawu’r gwanwyn, bydd Kathryn Ashill a Paul Hurley yn cynnal eu grŵp darllen cyntaf, tra bod Ocean Baulcombe-Toppin yn gwahodd ymwelwyr i ymuno i rannu te a meithrin geiriau o gadarnhad. Mae Anushiye Yarnell (yn y llun) yn cyflwyno dau berfformiad am 4pm a 7pm, perfformiad cyfranogol trochol gyda sgôr byw a delweddau gweledol. Mae Future Ritual yn edrych ar y cysyniad o farwolaeth, cofio, trawsnewid, aileni, a chyfnewid egni. I gloi’r noson, mae Birthmark yn rhannu dawns o Brydain, rhythmau drwm peiriant aneglur a geiriau o wirionedd i lywio dathliadau’r noson.

DYDD SADWRN

Mae gweithgareddau’r penwythnos yn dechrau am hanner dydd gydag Onismo Muhlanga yn cynnig symudiad a delwedd symudol yn gwrych i'r fam ddwyfol sy'n gorfodi'r gwaith geni ac yn ein cynnal ni,, wedi’i ddilyn gan ail sesiwn grŵp darllen gyda Kathryn a Paul. Mae Rebecca Jagoe yn cyflwyno perfformiad hirbarhaus aflinol dros y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf, sy’n dychmygu cwiardeb ac awtistiaeth fel perthynas glòs sydd â darn o garreg wedi’i osod yn ymennydd y gwrthrych. Yn nes ymlaen, mae Rebecca yn ymuno â Lou Lou Sainsbury mewn trafodaeth yn dilyn dangosiad o waith delwedd symudol newydd Lou Lou, gyda dangosiad o ddau ddarn o’i gwaith i gyd-fynd. Mae SERAFINE1369 yn cyflwyno perfformiad newydd gyda sgôr gwreiddiol sy’n archwilio cysyniadau o ddadfeiliad coreograffig, cylcholdeb, a chatharsis byrhoedlog. Mewn llif perffaith at y noson, bydd DOOMSCROLL yna’n dod ag anhrefn, egni a Monty Dom i rêf nos Sadwrn.

DYDD SUL

Ar y diwrnod olaf, ymunwch â phrofiad gwrando clòs yng ngwaith-ar-waith Naomi Pearce a Stuart Middleton, lle caiff cyfranogwyr eu hannog i ymgolli yn y gors ac archwilio’n llorweddol. Mae Gwenllian Spink yn cydweithio gyda Yellow Back Books mewn gweithdy sy’n defnyddio testunau i ystyried y berthynas gylchol rhwng y tymhorau newidiol, gyda hadau ar gael i’w cyfnewid. Mae Holly Slingsby yn cyflwyno dangosiad o waith newydd ei greu, gyda sesiwn holi ac ateb gyda Claire Vaughan i ddilyn. Mae perfformiad claddu defodol Farah Allibhai yn cynnig gobaith ar gyfer y newydd drwy’r ddaear, hadau a bwyd. Mae Your Skin is My Land (Home) gan Ffion Campbell-Davies yn rhoi sylw i synergedd cyfunol drwy Qigong cyfranogol, sain byw a delweddau. I gloi’r ŵyl, mae good cop bad cop yn plymio i’r ‘man tenau’ yn y byd perfformio, lle mae mytholeg a realiti’n croestorri.

Experimentica Festival Guide

Lawrlwythwch Ganllaw Gŵyl Experimentica 2024 yma

Learn More