
Art
EXPERIMENTICA 24: Ocean Baulcombe-Toppin: For You/On Hope
Nodweddion
Wedi’i gynnig fel math o gysur, mae For You/On Hope yn cymryd ysbrydoliaeth gan feddygaeth lysieuaeth ysbrydol i gadw ffydd yn ystod adegau ansicr. Mae’r gwaith yn rhoi cyfarwyddiadau ar bapur hadu yn rhodd ar gyfer seremoni bersonol/breifat, lle mae’r derbynwyr yn cael eu gwahodd i blannu a thyfu neges o gadarnhad, gan alluogi gobaith i ffynnu. Caiff ei rannu yn ystod offrwm te yn hyb yr ŵyl, a’i bostio i gymunedau lleol.
Artist yw Ocean Baulcombe-Toppin (g. 1996, Llundain) sy’n ymarfer ym maes ymddiriedaeth a gobaith. Mae’n gweithio’n eco-ymwybodol gyda gwrthrych, iaith, print, a rhyngweithio cynnil i grefftio athroniaeth gyfoes wedi’i hysbrydoli gan ei hysbrydolrwydd, ei threftadaeth Garibïaidd-Brydeinig, a defodau cysur. Gan weithio gyda gwrthrychau ail-law, deunyddiau bioddiraddadwy, effemera ac ynni adnewyddadwy, mae’n archwilio syniadau sy’n ymwneud â hybridedd, iacháu hynafiadol, amgylcheddaeth a chyfunoliaeth.
Mae cyflwyniadau diweddar o’i gwaith yn cynnwys arddangosfeydd a gwaith perfformiadol yn Oriel Neven, Llundain; Metroland Cultures, Llundain; Nottingham Contemporary, Nottingham; Somerset House, Llundain; Harlesden High Street, Llundain; Amgueddfa Freud, Llundain; Sinema Deptford, Llundain; ac Oriel De Llundain, Llundain.
Hygyrchedd: Bydd testun mawr a fersiynau sain o'r gwaith ar gael.
More at Chapter
-
- Art
Eimear Walshe: [É]IRE
-
- Art
EIMEAR WALSHE: MIXED MESSAGES FROM THE IRISH REPUBLIC
Archwilio cariad a galar am wlad sydd wedi’i chlymu mewn gwaddol trefedigaethol, chwyldro, gwrthryfel, ac addewid heb ei wireddu.
-
- Art
Steve McQueen: Grenfell
Fe’i gwnaed mewn ymateb i’r tân yn Nhŵr Grenfell yng Ngogledd Kensington, Gorllewin Llundain yn 2017 — trychineb lle bu 72 o bobl farw. Er mwyn creu cofnod parhaus, ffilmiodd McQueen y tŵr cyn iddo gael ei orchuddio.
-
- Art
Feeding Chair
Gwaith celf cydweithredol teithiol yw Feeding Chair, sy’n gwahodd rhieni a gofalwyr i fwydo’u plant mewn lleoliadau cyhoeddus.