Ffilmau yn Chapter 26 Mehefin — 2 Gorffennaf

  • Published:

Mae tair o’r ffilmiau wythnos yma’n edrych yn dawel ar y gorffennol.  

Mae brawd lleidr banc wedi anghofio ble cuddiodd yr arian yn The Last Viking. Comedi dywyll wedi’i seilio ar abswrdiaeth cynlluniau sy’n mynd o chwith.  

Mae A Private Life yn cymryd tro tywyllach, gan ddilyn therapydd sy’n gofyn i’w chyn-ŵr ymchwilio ar ôl colli claf.  

Ac mae Blue Heron yn cynnig astudiaeth deimladwy o gof, o safbwynt plentyn, wrth i deulu symud cyfandir.

Yn Persepolis, sy’n rhan o dymor Rip It Up y BFI, mae merch ddi-flewyn-ar-dafod yn tyfu i fyny yn ystod y Chwyldro Islamaidd yn yr animeiddiad cyfareddol yma.. Ymunwch â ni ar gyfer cyflwyniad gan Efa Blosse-Mason gyda theyrnged i’w harwres Marjane Satrapi.