Ffilmiau 5 – 18 Gorffennaf
Mae ein rhaglen sinema dros y pythefnos nesaf yn llawn dop, ac yn rhan o’r arlwy mae Unicorns. Cafodd y ffilm dyner yma ei chyd-gyfarwyddo gan gyfarwyddwr o Gymru a’r Aifft, Sally El Hosaini (My Brother the Devil, The Swimmers), ac mae’n adrodd stori mecanic sy’n cwrdd â pherfformiwr clwb nos Cwiar, gan danio ymgais i ddod o hyd i gariad a hunaniaeth.
Rydyn ni’n parhau i ddathlu Balchder gyda mwy o ffilmiau Cwiar llawen, gan gynnwys Orlando: My Political Autobiography, ac mae ’na ddigonedd o ddychryn hefyd gyda ffilmiau arswyd wythnosol yn ystod tymor yr haf…
Mae Watch Africa yn cyflwyno’r ffilm newydd ei hadfer Bushman am fyfyriwr o Nigeria sy’n profi gwrthdaro diwylliannau yn San Francisco’r chwedegau, ac mae NT: Live yn cyflwyno Clear and Present Danger, sef cynhyrchiad clodwiw o gomedi bryfoclyd Noël Coward, gydag Andrew Scott (All of Us Strangers, Vanya, Fleabag) yn serennu.
- Published: