Film
Unicorns (15)
- 1h 59m
Free
Nodweddion
- Hyd 1h 59m
- Math Film
Prydain | 2023 | 119’ | 15 | Sally El Hosaini, James Krishna Floyd | Ben Hardy, Jason Patel
Mae Luke, sy’n dad sengl, wedi hen arfer â setlo am berthnasau byrhoedlog ar yr achlysuron prin mae’n eu cael i’w hunan. Yna, mewn clwb tanddaearol, mae’n cwrdd ag Aysha. Maen nhw’n teimlo’r atyniad yn syth, ond mae Luke yn cael sioc o glywed mai brenhines drag femme yw Aysha, ac nid y fenyw cis roedd e’n feddwl. Wrth dreulio amser yn gweithio gyda’i gilydd gydag Aysha’n cyflwyno mwy o’i byd i Luke, ac wrth iddyn nhw ddelio â gwahanol heriau yn eu bywydau personol, maen nhw’n cwestiynu a allai eu perthynas fodoli y tu allan i’r labeli traddodiadol. Ffilm ramant deimladwy, a phortread beiddgar o wrywdod modern sy’n edrych ar bŵer trawsnewidiol cael eich gweld am bwy ydych chi go iawn.
Mae Sally El Hosaini yn cyfarwyddwr ac ysgrifennydd ffilm Cymry-Yr Aifft, adnabyddus am y ffilm fywgraffyddol 2022 The Swimmers.