Uchafbwyntiau mis Mawrth
- Published:
Mae mis Mawrth yn llawn dop o syniadau beiddgar, doniau disglair, a digonedd o gyfleoedd i gymryd rhan.
Rydyn ni’n dechrau arni gyda dathliadau Dydd Gŵyl Dewi – gyda diwrnod am ddim o berfformiadau, cerddoriaeth, gweithdai, gwneuthurwyr a bwyd da, gyda chroeso cynnes i bawb.
Mae’r artist Nina Thomas yn archwilio sain a llais drwy lens byddar yn The Broken Speaker, sef y gosodwaith diweddaraf yn y caffi bar.
Yn y sinema, bydd cyfle i ddarganfod doniau newydd gyda Moviemaker Chapter, dathlu’r ffefrynnau affwysol yn y Clwb Ffilmiau Gwael, neu fynd tu ôl i’r llen gyda thaith y Bwth Taflunio. Bydd Rhaglen Ffilm Deithiol Sefydliad Japan 2026 yn parhau hefyd, gyda chymysgedd trawiadol o ddrama, cyffro a chomedi tywyll.
Bydd llond y lle o chwerthin ar ein llwyfannau gyda Sam Nicoresti: Baby Doomer a Chlwb Comedi’r Drones, a bydd Caffi Trwsio Treganna yn rhoi ail fywyd i hen eitemau annwyl.