Celf
The Broken Speaker
Nina Thomas
Nodweddion
Mae arfer Nina Thomas yn archwilio capsiynu fel cyfrwng. Yn y ffilm fud The Broken Speaker (2026), mae ei chapsiynau’n dadsefydlogi’r categorïau sy’n aml yn cael eu dynodi i ddisgrifiadau sain a llais, gan archwilio’r goddrychol, y materol, y corfforol a’r cymdeithasol – a’r cyfan drwy lens byddar.
Mae’n ystyried capsiynu fel arfer o ddyfnhau sylw a gwrando. Mae’n dewis capsiynu anadlu ac oedi, y byddai capsiynydd efallai yn eu hepgor. I Nina, mae arwyddocâd i’r eiliadau yma. Yn hytrach na thoriadau neu fethiannau lleferydd, mae anadlu yn llenwi’r gofod rhyngon ni.
Mae Nina’n gwneud eiliadau o’r fath yn ddarllenadwy, yn weithred o gapsiynu agored sy’n chwilio am eiliadau o gyd-ddealltwriaeth.
___
Ynglŷn â'r artist
Mae Nina Thomas yn hollol fyddar, ac mae hi’n gweithio ers dros ddegawd yn eirioli dros newid yn y sector diwylliannol, gan weithio gyda lleoliadau diwylliannol i wella hygyrchedd. Roedd hi’n ymddiriedolwr i’r elusen Stagetext, ac yn aelod sefydlu o The Film Bunch (sefydliad ffilm i bobl fyddar a thrwm eu clyw). Fel artist, mae Nina wedi arddangos mewn lleoliadau fel LUX, British Ceramics Biennial, The Crypt Gallery (NW1), Liberty Festival 2022, Tate Exchange (Tate Modern, Llundain) ac OVADA (Rhydychen).
More at Chapter
-
- Celf
On hold on
Sophie Mak-Schram
Ar draws ein mynedfa mae delweddau o weithiau celf, gwrthrychau a deunyddiau o Amgueddfa Cymru sydd wedi’u hanwybyddu yn arnofio ar draws yr awyr.
-
- Cynnal yn Chapter
The Arts Society
-
- Celf
Acquisition Ongoing: Carbon Age Souvenirs
Lu Williams
“Siop roddion” y dyfodol lle mae gwrthrychau a phrintiau yn cael eu hail-ddychmygu fel arteffactau diwylliannol ffuglen ddyfaliadol.
-
- Celf
COMMS FAIL
Roy Claire Potter
Gosodwaith sain lle mae gwrthrychau, arwynebau a deunyddiau yn dod yn lleisiau gweithredol mewn amgylchedd gwrando ymdrochol.