Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Nodyn am ffioedd tocynnau

Rydyn ni eisiau rhoi ychydig o amser heddiw i egluro dwy ffi newydd i’n tocynnau, ac i roi ychydig o gyd-destun i egluro pam maen nhw’n cael eu cyflwyno.

Mae’n amlwg bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn i sawl elusen a busnes yn yr ardal leol a ledled Cymru. Rydyn ni’n gweld cynnydd enfawr yng nghostau ein cyfleustodau, a nawr o ganlyniad i’r argyfwng costau byw a ddechreuodd y llynedd, rydyn ni’n gweld y costau cronnol yna’n cael eu trosglwyddo i ni gan ein cyflenwyr.

Mae’n hanfodol bwysig bod Chapter yn fforddiadwy ac yn hygyrch i gymaint o bobl â phosib, mae gan bawb hawl i gael mynediad at y celfyddydau, perf­formiadau, ffilmiau a dig­wyddiadau sy’n dychmygu bydoedd y dyfodol. Rydyn ni wedi sicrhau bod y 51 mlynedd diwethaf wedi bod mor fforddiadwy â phosib, ac felly rydyn ni’n gwneud y pen­d­er­fyniadau yma nawr er mwyn sicrhau bod modd i ni gadw Chapter ar agor i bawb, am y 51 mlynedd nesaf o leiaf!

O 11 Rhagfyr ymlaen, byddwn ni’n cyflwyno’r ffioedd canlynol ar gyfer pob tocyn:

Ffi Trafodiad (£1 fesul trafodiad)

Ffi Cyfnewid Tocyn (£1.50 fesul cyfnewidiad)

Mae ffioedd trafodion a chyfnewid yn cael eu cyflwyno er mwyn gallu talu am gostau cynyddol y systemau ariannol a thechnegol rydyn ni’n eu defnyddio i weinyddu ein swyddfa docynnau. Mae rhai Cwestiynau Cyffredin am y ffioedd newydd isod:

Ydy hyn yn golygu y bydda i’n gorfod talu £1 ychwanegol am bob tocyn?

Nac ydy, dim ond fesul trafodiad y byddwch chi’n talu’r ffi yma, felly os ydych chi’n prynu un neu ddeg tocyn ar unwaith, bydd y Ffi Trafodiad o £1 yr un fath.

Beth os bydda i’n archebu wyneb yn wyneb neu ar y ffôn?

Waeth sut neu ble rydych chi’n archebu eich tocynnau, bydd y Ffi Trafodiad yr un fath, gan ein bod ni’n defnyddio’r un systemau.

Beth am docynnau am ddim? Oes ffi trafodiad arnyn nhw?

Ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn codi ffi trafodiad ar docynnau am ddim fel ein Ffilmiau am Ddim i’r Teulu neu ddig­wyddiadau am ddim eraill.

Sut alla i glywed am eich ffilmiau/​perfformiadau yn y dyfodol? 

Y ffordd orau o weld ein holl restrau yw ar www​.chapter​.org/​c​y​/​d​i​g​w​y​d​d​iadau neu drwy gofrestru i’n rhestr bostio i gael ein canllaw ffilm bob pythefnos.

Pam mae hyn yn cael ei gyflwyno nawr?

Mae cost gynyddol cyfleustodau a gwas­an­aethau yn golygu bod ein prisiau presennol yn anghynaladwy, ac rydyn ni wedi cyflwyno’r ffi fach yma er mwyn sicrhau bod modd i ni barhau i gyflwyno’r ffilmiau, perf­formiadau, ard­dan­gos­feydd celf a dig­wyddiadau gorau, o Gymru, Prydain ac yn rhyngwladol.

Pryd byddwch chi’n cyflwyno’r ffi?

Bydd y Ffi Trafodiad a’r Ffi Cyfnewid yn dod i rym o 10am, 11 Rhagfyr. 

Oes ffordd o osgoi’r ffioedd?

Cofrestrwch ar gyfer Cerdyn Ffrindiau Chapter i gael ystod eang o fanteision, sy’n cynnwys osgoi’r Ffioedd Trafodiad a Chyfnewid. Cofrestrwch yma i helpu i wneud i bethau gwych ddigwydd yn Chapter, a phrofwch fanteision gwych ar yr un pryd.

  • Published: