Uchafbwyntiau mis Ebrill
- Published:
Ym mis Ebrill mae gennym gymysgedd bywiog o waith sy'n ein gwahodd ni i archwilio straeon yn eu holl ffurfiau.
Yn yr oriel, mae Imogen Stidworthy: In a thread of air yn creu tirlun sonig-somatig cyfoethog sydd wedi'i siapio gan wahanol ffyrdd o leisio ac o fod, tra bod gosodwaith caffi Nina Thomas, The Broken Speaker, yn cynnig archwiliad tawel o sain a llais drwy lens byddar.
Ar y llwyfan, cawn ymgolli mewn perfformiad sy'n mynd tu hwnt i genres, lle bydd Carys Eleri: Tonguing yn cynnig cawdel chwareus o wyddoniaeth, comedi a cherddoriaeth. Mae Joelle Taylor: Maryville, yn eich gwahodd ar daith bwerus a barddonol drwy hanner can mlynedd o wrthddiwylliant lesbiaidd. Ac mae’r bacbibydd Ffrengig Erwan Keravec yn cyflwyno ei albwm unigol newydd Whitewater, gwaith personol sy’n dychwelyd at ei wreiddiau.
Ar y sgrin, peidiwch â cholli rhagddangosiad arbennig o The Rose of Nevada, cyn sesiwn holi ac ateb gyda'r cyfarwyddwr Mark Jenkin, sy'n dod â'i waith adrodd straeon unigryw ac atmosfferig i'n sinema. Mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn dychwelyd gyda phedwar diwrnod o hud animeiddio, yn llawn ffilmiau byrion a nodwedd, gweithdai a darganfyddiadau chwareus i'r gynulleidfa.