Uchafbwyntiau yr arddangosfa: hydref/​gaeaf

  • Published:

Peidiwch â cholli’r wythnos olaf o Meadowsweet Palisade gan yr artistiaid o Gymru, Jenő Davies ac Iolo Walker. Bydd parti cau’r arddangosfa gyda’r cerddor a’r cyfansoddwr Boy Lucid yn gyfle i archwilio’n ddyfnach fyth fytholeg a thirweddau gwledig.

Yna ymunwch â ni ar gyfer agoriad To Shift a Stone, gan Sophie Mak-Schram a chydweithredwyr. Dewch i weld gweithiau newydd sy’n archwilio’r perthnasau rhwng grym, celf a phobl, gan gynnwys print gan Picasso a fenthyciwyd i ysgolion ledled Cymru. Bydd yr agoriad yn cynnwys teithiau, perfformiadau a cherddoriaeth gan Emma Daman Thomas.