Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar.

Read more

Fanja Bouts: A Largely Distorted yet Surprisingly Ordered Map of Regular Irregularities

Free

Nodweddion

‘Map anhrefnus mawr yw fy ngwaith, ar ffurf tapestri wedi'i wau, o fyd sy'n digwydd bod yn debyg i'n un ni, yn llawn cymeriadau absẃrd, cosmoleg a theithio gofod, negeseuon athronyddol sy’n gwrth-ddweud ei gilydd a llawer iawn o ddychan.’

Yr haf yma, byddwn yn gartref i dapestri enfawr gan yr artist o'r Iseldiroedd Fanja Bouts. Mae'n dechrau yn y canol, gyda'r hyn sy'n gyfystyr â’r “Glec Fawr” i drefn y byd cyfalafol ac yn datblygu allan i lwybrau sy'n cwympo'n anhrefnus. Mae mapiau'n dangos y ffordd i ni, ond yma rydyn ni’n wynebu golygfeydd a symbolau dwys sy'n darlunio anghyfiawnder cymdeithasol, trychineb hinsawdd ac anghydraddoldebau economaidd. I Fanja, mae ein hymgais am dwf diddiwedd wedi creu byd sy'n chwalu.

Yng nghyd-destun Chapter, sef lle i ddod a bod gyda'n gilydd, lle i feddwl am y ffyrdd rydyn ni’n byw a lle i ddychmygu dyfodol newydd, mae Fanja yn eich gwahodd i ddilyn llwybrau ei map ac ystyried syniadau o gydfodolaeth, defnydd, a gofalu. 

Mae Fanja Bouts yn asesu'n feirniadol yr heriau sy'n ein hwynebu heddiw drwy weoedd darluniadol bywyd. Gyda chefndir mewn ffiseg a seryddiaeth, delwedd symudol ac yn fwyaf diweddar gradd meistr mewn gwyddorau amgylcheddol, caiff themâu sy'n codi dro ar ôl tro fel ailddychmygu ein planed mewn fframwaith ecolegol cyfiawn, mwy-na-dynol, eu gweld drwy lens wleidyddol ecoleg, athroniaeth a gwyddorau naturiol. Cafodd fersiwn o'r gwaith yma ei ddangos yn flaenorol fel rhan o MANIFESTA 15 yn 2024. 

Share