Performance

Bodies in Process: opening roundtable

Reciprocal Gestures: symudiad mewn deialog

  • 1h

£0 - £10

Nodweddion

  • Hyd 1h
Rhaglen ddeuddydd o ddawns a symudiad estynedig yw Reciprocal Gestures: symudiad mewn deialog, sy’n cynnull artistiaid a chymunedau i archwilio potensial cynhaliol a thrawsnewidiol arferion ar sail symudiad.

Ymunwch â ni mewn trafodaeth bord gron agoriadol a fydd yn archwilio’r arferion a’r prosesau sy’n ein cynnal. Gyda’r artistiaid cyfrannol Natifah White, Anushiye Yarnell a Florence Peake, yn ogystal â Bakani Pick-up (Cyfarwyddwr Artistig, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru), a Kit Edwards (Curadur Perfformio, Chapter).

___

Ynglŷn â'r artist

Artist dawns sy’n byw yn Nottingham yw Natifah White, sy’n cymhwyso egwyddorion symud i ail-ddychmygu systemau archifau a llyfrgelloedd.  Mae hi’n disgrifio ei gwaith fel gwe cyfeiriadol sy’n cwmpasu perfformiad (mae credydau yn cynnwys: Seke Chimutengwende, Florence Peake, SERAFINE 1369 ac Elinor Lewis/ Joe Garbett) ac arfer personol yn seiliedig ar gwestiynau arweiniol.

Ynglŷn â'r artist Artist rhyngddisgyblaethol yw Anushiye Yarnell y mae ei gwaith yn cwmpasu symudiad, sain, llais, testun, lluniadu, cyfranogiad ac addysgeg amgen. Mae ei gwaith yn ymgynnull mewn ffyrdd symbiotig, gwrth-wahaniaethol o fod. Mae’n archwilio’r rhyngblethu rhwng bydoedd breuddwydion a ffantasi gyda bywyd bob dydd, gan chwilio am y cysylltiadau rhwng profiadau bob dydd yn y byd, a’r fframweithiau anthropolegol, athronyddol, barddonol ac artistig.

Mae Florence Peake wedi bod yn creu gwaith beiddgar, rhyngddisgyblaethol ers 1995, gan gyflwyno'n eang ledled y DU a’r byd. Mae ei hymarfer yn dwyn ynghyd symudiad, cerflunio, peintio a thestun i greu perfformiadau ymdrochol, anrhagweladwy sy'n archwilio’r berthynas rhwng corff a deunydd.

Ganwyd Bakani Pick-Up yn Bulawayo, Zimbabwe, a symudodd i'r DU yn 2005. Dechreuodd ei daith dawns yn Zimbabwe, lle bu'n ffodus i fynychu ysgolion a ddatblygodd ei frwdfrydedd am symudiad. Ar ôl cwblhau ei arholiadau Safon Uwch, hyfforddodd Bakani mewn Coreograffi ym Mhrifysgol Falmouth a Trinity Laban. Ymhlith yr artistiaid y bu'n gweithio â nhw ers iddo raddio mae Grace Wales Bonner, Anthea Hamilton, Theo Clinkard a Fevered Sleep. Ochr yn ochr â'i ymarfer symudiadau, gweithiodd Bakani fel Coreograffydd, Awdur, Darlithydd, Ymchwilydd a Rhaglennydd.

Mae’r perfformiad yma’n un Talwch Faint Allwch Chi. Dewiswch bris tocyn ar sail beth allwch ei fforddio.

Mae taliadau’n mynd yn uniongyrchol i gefnogi ein helusen, fel bod modd i ni weithio gydag artistiaid a’n cymuned i gynnig mwy o berfformiadau, arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau fel hyn yn y dyfodol.

Share

Times & Tickets

Key

  • BSL British Sign Language interpreted