
Art
Cymunedoli – Beth yw e a sut allwn ni i gyd fod yn rhan ohono?: Sgwrs gyda Leanne Wood a Beth Winter
Nodweddion
1-2pm | Am ddim, does dim angen archebu
Mae Leanne Wood a Beth Winter wedi bod yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cymunedol yn y cymoedd. Mae awydd cryf i ailadeiladu ein cymunedau a chynnig dewis arall yn lle'r model economaidd aflwyddiannus sydd wedi achosi tlodi a rhaniadau. Mae hon yn ymgyrch sy'n tyfu. Dewch draw i ddysgu mwy.
Gallwch ddarllen mwy am Gymunedoli yma: https://nation.cymru/opinion/creating-a-community-of-communities-in-the-south-wales-valleys/
___
Mae’r digwyddiad yma’n rhan o Grenfell: We Stand With You, rhaglen gyhoeddus i gyd-fynd â chyflwyno ffilm Grenfell gan Steve McQueen.
Mae’r daith yma o Grenfell yn cael ei chydlynu gan y Tate mewn cydweithrediad â’r lleoliadau partner, ac fe’i gwnaed yn bosib diolch i gefnogaeth arian cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Lloegr a gan Art Fund. Bydd pob arddangosiad am ddim, a bydd rhaglen ymgysylltu gyhoeddus gysylltiedig, a fydd yn cynnwys sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau cymunedol gyda chefnogaeth Sefydliad Grenfell.