
Art
Gweithdy Brwydro yn erbyn Anghyfiawnder Tai
Nodweddion
11-1pm | Am ddim, does dim angen archebu
Dewch i ymuno ag ACORN Caerdydd a’u trefnydd Dan ar gyfer gweithdy ‘Brwydro yn erbyn Anghyfiawnder Tai’!
ACORN yw'r Undeb ar gyfer y gymuned, maen nhw'n brwydro’n ôl yn erbyn landlordiaid, asiantaethau tai ac unrhyw un arall sy'n esgeuluso ein cymuned! Gall unrhyw un ddod draw a dysgu sut y gallwn ni i gyd frwydro’n ôl gyda'n gilydd a brwydro yn erbyn yr anghydraddoldeb sy'n ein hatal rhag byw bywydau heddychlon!
___
Mae’r digwyddiad yma’n rhan o Grenfell: We Stand With You, rhaglen gyhoeddus i gyd-fynd â chyflwyno ffilm Grenfell gan Steve McQueen.
Mae’r daith yma o Grenfell yn cael ei chydlynu gan y Tate mewn cydweithrediad â’r lleoliadau partner, ac fe’i gwnaed yn bosib diolch i gefnogaeth arian cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Lloegr a gan Art Fund. Bydd pob arddangosiad am ddim, a bydd rhaglen ymgysylltu gyhoeddus gysylltiedig, a fydd yn cynnwys sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau cymunedol gyda chefnogaeth Sefydliad Grenfell.