Nodweddion
- Hyd 3h
Digwyddiad arbennig sy’n defnyddio egni cudd, aflonyddgar gweithiau creadigol anorffenedig.
Ar ôl cysgu am filiwn o flynyddoedd wrth waelod llosgfynydd neu fasn gwaddodol, gall ffosil efelychu priodweddau ei amgylchedd. Mae darn o bren caregaidd, dant megalodon, neu asgwrn deinosor wedi'i drwytho ag wraniwm a thoriwm: olion elfennol gorffennol nad yw yn y gorffennol.
Gan ei fod yn parhau i allyrru ynni, mae gwaith creadigol anorffenedig yn fath o ffosil ymbelydrol hefyd. Beth sy'n digwydd pan fyddwn yn cloddio ac yn dadorchuddio'r gwrthrychau hyn sydd â bywyd ynddyn nhw? Beth sy'n fyw ynddyn nhw, ac sy’n gallu effeithio arnom ni neu'r byd? Ac os ydym yn eu dal yn ein dwylo, a fydd eu cyffyrddiad yn ein bywiogi? Neu a fyddan nhw’n gwneud dim heblaw am losgi ein bysedd?
Ymunwch â ni am noson arbennig yn cloddio ffosiliau ymbelydrol rhai o awduron creadigol mwyaf cyffrous de Cymru. Bydd awduron sy'n gweithio ar draws genres yn rhannu o weithiau sydd ar y gweill a thestunau segur: gweithiau a oedd wedi cael eu hoedi, eu claddu, neu eu rhoi o'r neilltu, ond sy'n rhoi pwysau ar y presennol o hyd.
Gyda'n gilydd, byddwn yn edrych ar yr hyn sydd ei angen, yn bersonol ac yn greadigol, i ddychwelyd at weithiau anorffenedig—yn ogystal â pha ffurfiau newydd sy'n bosibl pan fydd gweithiau o'r fath yn cael eu hagor i eraill. Bydd aelodau’r gynulleidfa’n cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau difyr o gyd-greu, gan helpu i ailddychmygu posibiliadau cudd yr anorffenedig.
Mae Ffosiliau Ymbelydrol yn gyfle i ddod o hyd i ôl-fywydau rhyfedd gwaith creadigol yng Nghymru heddiw: yr adfeilion sydd heb eu harchwilio, yr arbrofion gwyllt, a'r bydoedd gwag nad ydyn nhw o bosibl wedi ein gadael yn gyfan gwbl.
Mae tocynnau yn rhad ac am ddim ac yn cynnwys pwdin a diodydd poeth am ddim. Croeso i bawb ond mae lleoedd yn brin iawn.
Yn cynnwys: David Bolitho, Nia Davies, Tracy Harris, Sian Hughes, Catherine Jenkins, Joshua Jones, Radha Patel, Emma Smith-Barton, a Clare Sturges.
Cyflwynir y digwyddiad hwn gan Dr Alix Beeston, Dr Ailbhe Darcy, a Dr Christina Thatcher ac mae wedi’i ariannu gan Gronfa Ymgysylltu Cenedlaethau'r Dyfodol Prifysgol Caerdydd

Times & Tickets
-
Dydd Iau 16 Gorffennaf 2026
More at Chapter
-
- Cynnal yn Chapter
The Arts Society
-
- Digwyddiadau
Caffi Trwsio Treganna
Dewch ag eitemau trydanol bach, dillad, offer technoleg gwybodaeth, teganau, addurniadau, dodrefn bach, beiciau neu emwaith, ac fe fydd ein tîm o wirfoddolwyr yn barod i geisio eu trwsio.
-
- Gweithdai
Dan Johnson: A Summer of Deep Listening
Ymunwch â ni mewn cyfres o weithdai gwrando a sain chwareus gan Dan Johnson, wedi’u hysbrydoli gan waith Pauline Oliveros. Agored i bob oed a gallu.
-
- Digwyddiadau
Pub Quiz
Dewch â’ch tîm at ei gilydd ac ewch am y bar.