Performance
Florence Peake: performance
Reciprocal Gestures: symudiad mewn deialog
- 1h
£5 - £12
Nodweddion
- Hyd 1h
Rhaglen ddeuddydd o ddawns a symudiad estynedig yw Reciprocal Gestures: symudiad mewn deialog, sy’n cynnull artistiaid a chymunedau i archwilio potensial cynhaliol a thrawsnewidiol arferion ar sail symudiad.
Mewn partneriaeth â Chapter, mae tactileBOSCH yn falch o gyflwyno perfformiad, datblygedig trwy gweithdy gyda Florence Peake, artist o Lundain sy'n gweithio ar draws perfformiad, symudiad a chelf weledol.
Mewn partneriaeth â Chapter, mae tactileBOSCH yn falch o gyflwyno perfformiad, datblygedig trwy gweithdy gyda Florence Peake, artist o Lundain sy'n gweithio ar draws perfformiad, symudiad a chelf weledol.
Gyda dyhead i gael ei ddal mewn tywyllwch ac i ddawnsio ynddo, bydd perfformiad ensemble yn datblygu o broses y gweithdy. “Dwi wedi bod yn edrych ar y coreograffi o ddulliau castio ar gyfer y prosiect Your Meaning Not Your Materiality – y ddeuawd rhwng y cynhwysydd sy'n dal ffurf a'r hylif sy'n cael ei dywallt i mewn, yn caledu ac yn meddiannu".
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhan o tB25: The Fist Inside the Velvet Glove, gan ddathlu 25 mlynedd o tactileBOSCH yn cefnogi artistiaid arbrofol.
____
Ynglŷn â'r artist
Casgleb gelf dan arweiniad artistiaid, sydd wedi’i lleoli yng Nghymru, yw tactileBOSCH. Ers 2001, mae’n ail-ddefnyddio gofodau segur a gofodau ymylol ledled Caerdydd a’r tu hwnt, gan greu amgylcheddau dros dro lle mae perfformiad, gosodwaith, sain a chyfarfyddiad cymdeithasol yn gwrthdaro. Mae tactileBOSCH yn cefnogi artistiaid sy’n gweithio ar ymylon arfer ac yn dod â chynulleidfaoedd ynghyd ar gyfer cyfarfyddiadau byw arbrofol ac anrhagweladwy.
Mae Florence Peake wedi bod yn creu gwaith beiddgar, rhyngddisgyblaethol ers 1995, gan gyflwyno'n eang ledled y DU a’r byd. Mae ei hymarfer yn dwyn ynghyd symudiad, cerflunio, peintio a thestun i greu perfformiadau ymdrochol, anrhagweladwy sy'n archwilio’r berthynas rhwng corff a deunydd.
Mae eich tocyn yn mynd yn bellach na’r sioe – mae’n cefnogi artistiaid yn uniongyrchol a’r gwaith rydyn ni’n ei wneud. Diolch!
Times & Tickets
-
Dydd Sadwrn 13 Mehefin 2026
More at Chapter
-
- Workshops
Florence Peake: intensive workshop
Reciprocal Gestures: symudiad mewn deialog
Mae tactileBOSCH yn falch o gyflwyno gweithdy untro gyda Florence Peake, artist o Lundain sy'n gweithio ar draws perfformiad, symudiad a chelf weledol.
-
- Performance
Natifah White: Shared Shelves
Reciprocal Gestures: symudiad mewn deialog
Mae’r llyfrgell dros dro yma’n cynnig casgliad o ddeunydd darllen ac adnoddau wedi’u cyrchu gan y gymuned, gan gynnwys sgoriau dawns/symud, gweithiau digidol, llyfrau a mwy.
-
- Workshops
Anushiye Yarnell: Archipelago Movement (Dynamics)
Reciprocal Gestures: symudiad mewn deialog
Ymunwch â’r artist Anushiye Yarnell ar gyfer sesiwn addasadwy wedi’i hysbrydoli gan Ioga Scaravelli, Asana Creadigol, patrymau symud esblygiadol a datblygiadol, Gymnasteg Noguchi ac ymchwil bersonol. Bydd y sesiwn ysgafn yma’n canolbwyntio ar y mat.
-
- Performance
Iona Hannagan Lewis and Sam Hempenstall: f?ght f?ck