
Sophie Mak-Schram and collaborators: To Shift a Stone
Free
Nodweddion
Beth yw grym? A phwy sy'n cadw'r grym hwnnw?
Yn 2023–2025, archwiliodd yr artist Sophie Mak-Schram sut mae pŵer yn cael ei brofi, ei rannu a'i herio o fewn Amgueddfa Cymru a Chapter.
Trwy weithio gydag ymgyrchwyr, gweithwyr cymuned, artistiaid a staff amgueddfa – datblygodd Sophie 'offer' cydweithio sy'n herio strwythurau grym ac yn eu hailddychmygu.
Mae'r 'offer' cydweithio yn amrywio o dempledi mynediad a phrosesau gwaith newydd i uwch-seinydd wedi'i addasu a darnau cerameg, gan greu cyfleoedd i ddysgu ar y cyd a chyd-greu mewn ffordd decach.
Mae'r arddangosfa ddwy ran Dyfal Droi y Garreg, yn canolbwyntio ar gategoreiddio (Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd) a ffurfiau ymgynnull (Chapter).
Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mae'r arddangosfa'n ystyried sut mae gwrthrychau yn cael eu casglu a'u hadnabod, llais pwy sy'n cael ei glywed yn siarad am y gwrthrychau hyn, a sut i dorri ar draws rhai o reolau cudd yr amgueddfa.
Bydd yr arddangosfa'n cynnwys rhai o'r offerynnau ochr yn ochr ag eitemau allweddol o gasgliadau'r amgueddfa, gan gynnwys y Casgliad Allestyn Ysgolion a'r coridor Celf Asiaidd. Mae'n dangos sut mae pŵer yn siapio'r hyn sy'n cael ei weld, ei gadw a'i ddehongli.
Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 14 Mehefin ymlaen a Chapter o 13 Medi ymlaen i ymgysylltu â'r arddangosfa, cyffwrdd a rhoi tro ar rai agweddau o'r project ac archwilio'r arddangosfeydd.
___
Safbwynt(iau)
Mae Safbwynt(iau) yn broject ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru sy'n ceisio creu newid sylweddol yn y ffordd mae'r sector treftadaeth a chelfyddydau gweledol yn adlewyrchu amrywiaeth ethnig a diwylliannol ein cymdeithas. Cefnogir y project gan Lywodraeth Cymru yn rhan o'r cywaith i wireddu amcanion diwylliant a threftadaeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.