Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar.

Read more

Art

Stitching for Community Activism workshop

Nodweddion

1.30-3pm | Am ddim

Mae Pwytho dros Ymgyrchu Cymunedol yn weithdy brodwaith ymarferol dan arweiniad yr artist a’r ymchwilydd tecstilau o Gymru, Ophelia Dos Santos. Gyda’i gwreiddiau mewn cymuned a threftadaeth, mae Ophelia’n defnyddio brodwaith fel arf pwerus ar gyfer adrodd straeon, ymgyrchu, a chyd-ofal. Bydd y cyfranogwyr yn archwilio sut gellir defnyddio nodwydd ac edau nid yn unig i drwsio defnydd, ond i drwsio hanesion, hybu lleisiau, a phwytho cyd-weledigaethau er newid.

Does dim angen profiad blaenorol o bwytho – dim ond eich straeon, eich syniadau, a’ch parodrwydd i ddysgu. Sesiwn alw heibio yw hon, does dim angen i chi ddod i’r ddwy awr gyfan.

___

Mae’r digwyddiad yma’n rhan o Grenfell: We Stand With You, rhaglen gyhoeddus i gyd-fynd â chyflwyno ffilm Grenfell gan Steve McQueen.

Mae’r daith yma o Grenfell yn cael ei chydlynu gan y Tate mewn cydweithrediad â’r lleoliadau partner, ac fe’i gwnaed yn bosib diolch i gefnogaeth arian cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Lloegr a gan Art Fund. Bydd pob arddangosiad am ddim, a bydd rhaglen ymgysylltu gyhoeddus gysylltiedig, a fydd yn cynnwys sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau cymunedol gyda chefnogaeth Sefydliad Grenfell.

Share