Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan Martin Scorsese
- Tarddiad USA
- Blwyddyn 1976
- Hyd 1h 54m
- Tystysgrif 18
Mae’r cyn-filwr Fietnam unig, Travis Bickle, yn dioddef ag insomnia ac yn cael swydd fel gyrrwr tacsi yn Ninas Efrog Newydd, ac yn teithio’r strydoedd bob nos ac yn gynyddol golli cysylltiad â realiti. Pan mae Travis yn cwrdd â’r gweithiwr ymgyrch hardd, Betsy, mae’n datblygu obsesiwn gyda’r syniad o achub y byd, gan freuddwydio am lanhau’r ddinas frwnt, a’i gwneud yn lle gwell na’r ddinas lygredig llawn pechod mae’n ei gweld. Mae’n dechrau cynllwyno i ladd ymgeisydd arlywyddol, cyn troi ei sylw at achub y butain ifanc Iris. Mae’r ffilm neo-noir yma gan Martin Scorsese, a ysgrifennwyd gan Paul Schrader ac sydd â sgôr hypnotig gan Bernard Herrmann (ei waith olaf ar gyfer y sgrin) yn cael ei hystyried yn un o gampweithiau sinema America, ac mae’n dathlu ei hanner can mlwyddiant eleni.
___
___
Oherwydd amodau ein trwydded, ni allwn ganiatáu pobl ifanc o dan 18 oed yn yr adeilad ar ôl 10.30pm. Dylech wirio amser gorffen unrhyw ffilm, perfformiad neu ddosbarth cyn archebu. Ewch i’n tudalen Teuluoedd i gael rhagor o wybodaeth cyn y
More at Chapter
-
- Cynnal yn Chapter
The Arts Society
-
- Ffilm
A Private Life
Mae claf therapydd yn marw ac mae’n gofyn i’w chyn-ŵr ei helpu i ymchwilio.
-
- Ffilm
The Last Viking
Mae brawd lleidr banc wedi anghofio ble cuddiodd yr arian yn y gomedi dywyll yma.
-
- Ffilm
Effi O Blaenau
Mae bywyd menyw ifanc yn troi’n llawn gobaith ar ôl cwrdd â rhywun newydd yn y ddrama bwerus yma.