Perfformiad

Matt Nõmme: Wales, innit.

  • 1h 30m

£5 - £12

Nodweddion

  • Hyd 1h 30m
Mae gwlad y gân yn wallgo’ bost, ac mae Matt Nõmme yn cyflwyno straeon a cherddi am smyglo cyffuriau, bomiau o'r Ail Ryfel Byd, a mynydd mwyaf melltigedig Cymru, Pen y Fan, yn y sioe newydd hon sy'n dathlu gwlad fwyaf rhyfedd y DU.

Mae ei eiriau wedi atseinio mewn tafarndai, clybiau gweithwyr a cheginau, ac wedi cael eu gweiddi dros y wal yng ngharchar Caerdydd, a Stadiwm y Principality.

Fyddwch chi ddim eisiau colli bardd mwyaf drwg-enwog Cymru.

"Sai’n hoffi barddoniaeth, ond fe wnes i fwynhau hwnna" – rhyw ddyn canol oed ym mhob gig.

___

Ynglŷn â'r artist

Bardd o Gaerdydd yw Matt Nõmme.

Mae ei gerddi wedi atseinio o amgylch Stadiwm y Principality ar ddechrau gêm, wedi cael eu gweiddi i dyrfaoedd swnllyd wrth iddo agor i fandiau, ac wedi cael eu cyhoeddi gan BBC Rugby Union Weekly, Radar Magazine, a Nation Cymru

Share

Times & Tickets