Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Oriel

Os byddwch chi’n ymweld â’r oriel, does dim angen archebu ac mae mynediad am ddim, ond bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Tracio ac Olrhain wrth ein desg flaen cyn cael mynediad.

Bydd ein staff yn gwisgo cyfarpar diogelu personol, ac mae glanweithydd dwylo ar gael wrth fynediad yr oriel.

Rydyn ni wedi gostwng ein capasiti i ddim mwy na 10 ymwelydd ar y tro, er mwyn eich cadw mor ddiogel â phosib.

Rydyn ni wedi cyflwyno trefn lanhau drylwyr, ac felly bydd unrhyw ddarnau rhyngweithiol (er enghraifft gyda chlustffonau) yn cael eu glanhau'n drylwyr rhwng ymwelwyr.

Fyddwn ni ddim yn argraffu taflenni gwybodaeth bellach, ond mae paneli testun y tu mewn i'r oriel er mwyn cynnig rhagor o wybodaeth am yr artist(iaid) a'u gwaith. Mae ein staff cyfeillgar bob amser yn barod i gael sgwrs am yr arddangosfa os hoffech wybod mwy.

Mae gwybodaeth am yr arddangosfa hefyd ar gael yma.

Mae'n hanfodol gwisgo masg yn ein oriel ar bob adeg.

Cyflwyniad i Oriel Chapter

  • Mae'r artist Leo Robinson yn eistedd yng nghanol ystafell wedi'i goleuo'n porffor hefo waliau gwyn a llawr pren. Mae person yn eistedd ar y dde yn chwarae gitar.

Cewch y Newyddion Diweddaraf

Cofrestrwch i fod y cyntaf i wybod am ddigwyddiadau, arddangosfeydd, ffilmiau a pherfformiadau i ddod, yn ogystal â gostyngiadau i’r rhestr e-bost yn unig, a mwy!