Rydyn ni’n dathlu ffilm yn ei holl ffurfiau, gan gynnig profiad sinema cyfoethog sy’n blaenoriaethu’r profiad sinema sgrin fawr, gan ddangos ffilmiau ar ffilm 35mm yn ogystal â ffilmiau digidol wedi’u taflunio â laser.
Ochr yn ochr â ffilmiau newydd, rydyn ni’n cyflwyno ystod o wyliau ffilm a thymhorau wedi’u curadu, gyda sgyrsiau, sesiynau holi ac ateb a digwyddiadau sy’n helpu i ysbrydoli creadigrwydd ymhlith ein cynulleidfa ac i sicrhau bod ganddon ni i gyd ddealltwriaeth ddyfnach o’r broses creu ffilmiau a mewnwelediad i’r diwydiant ffilm ffyniannus yma yng Nghymru.
Rydyn ni’n falch o fod yn Ganolfan Ffilm ar gyfer Cymru, yn un o wyth o ganolfannau ffilm ledled gwledydd Prydain a ffurfiwyd fel rhan o Sefydliad Ffilm Prydain: Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm. Drwy Ganolfan Ffilm Cymru, rydyn ni’n cyflwyno mwy o ffilmiau, i fwy o bobl, mewn mwy o lefydd ledled y wlad.