Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Cadoediad

  • Published:

Yn Chapter, rydyn ni’n ymroddedig i’n dyletswyddau fel sefydliad diwylliannol dinesig ac fel lleoliad o uniondeb artistig. Rydyn ni’n ymdrechu i fod yn lle i bobl allu dod at ei gilydd, lle mae ein hunaniaethau cymhleth yn ymgasglu, a lle gallwn archwilio ac ystyried cytserau’r byd rydyn ni’n ei rannu. Wrth wraidd hyn mae ymrwymiad i greu gofod ar gyfer cyfiawnder ac ar gyfer ein gilydd.

Rydyn ni’n ymuno â lleisiau ar draws mannau dinesig a diwylliannol, i alw am gadoediad ar unwaith yn Gaza, ac i eirioli dros yr hawl i ryddid a hunanbenderfyniad. Rydyn ni wedi bod yn meddwl am yr hyn ddywedodd y bardd, ymgyrchydd ac ysgolhaig Fred Moten: “Mae’n rhaid i ni ddilyn y cymhelliant i siarad gyda’n gilydd, i astudio a meddwl gyda’n gilydd, ac i feddwl am y cwestiwn penodol ynghylch sut rydyn ni’n adnewyddu ac yn mireinio ein harferion gwrth-drefedigaethol?”

Gyda hyn mewn cof, fe’ch gwahoddwn i ymuno â ni yn y myfyrdod yma ac i weithio gyda ni i hyrwyddo’r rôl y gall celf a diwylliant ei chwarae wrth gynnull sgwrs ac adeiladu byd, wrth archwilio sut gallwn ni ddatblygu diwylliant o ofal, ac ymarfer diogelwch ac urddas gyda phobl ar delerau a rennir. Byddwn ni’n archwilio hyn yn ein rhaglen artistig, drwy wahodd cysylltiad drwy leisiau pwerus ac amrywiol artistiaid.

Ym mis Tachwedd, fe weithion ni gyda’n cyfeillion a’n cydweithwyr yn Theatr Common Wealth, Cymru, a Theatr Ashtar, Palesteina, i gyflwyno Monologau Gaza, mewn gofod i fyfyrio a chynnal deialog lle mae geiriau a meddyliau pobl ifanc Palesteina yn dod yn fyw drwy gyfres o fonologau a berfformiwyd gan artistiaid o Gaerdydd.

Ers hynny, rydyn ni wedi bod yn gweithio tu ôl i’r llen i gynnal gweithdai, hyfforddiant a sgyrsiau, a byddwn ni’n parhau i ddatblygu ein rhaglen i gynnwys dangosiadau ffilm gyda thrafodaethau; cynulliadau ar gyfer gweithwyr diwylliannol i archwilio hawliau a chyfrifoldebau; archwiliadau o brotest yn cynnwys drwy ganeuon, barddoniaeth a chelf; a sgyrsiau cymunedol am sut i lywio trafodaethau anodd, gan ddatblygu ymwybyddiaeth wleidyddol a’r rôl y gall y celfyddydau ei chwarae yn hyn.

Os hoffech sgwrs neu awgrymu digwyddiad, yn yr achos cyntaf cysylltwch ag Arron, ein Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol: [email protected]. I weld newyddion am ein rhaglen, ewch i www.chapter.org neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol @chapterartscentre.