Chapter a Hear We Are yn Cyhoeddi Bwrsarïau Creadigol Byddar
- Published:
Mae Hear We Are a Chapter yn falch o gyhoeddi bod pum person creadigol Byddar wedi cael bwrsariaethau i ddatblygu eu hymarfer proffesiynol yng Nghymru.
Dewiswyd yr artistiaid yn sgil galwad agored am ymgeiswyr, a bydd pob artist yn cael £500, cyllideb llesiant o £100 a chymorth mentor creadigol Byddar a fydd yn gweithio gyda nhw i archwilio sut maen nhw’n gallu datblygu eu syniadau creadigol unigryw.
Dyma’r pum artist sydd wedi cael eu dewis: Kate Evans, Maggie Hampton, Lloyd Miller, Clara Newman a Levi Slade.
Dywedodd arweinydd y prosiect, Jonny Cotsen: “Yn dilyn llwyddiant ein gŵyl Deaf Together ym mis Mai eleni, rhai o’r cwestiynau mawr oedd “Sut alla i fod yn artist?” a “Sut alla i gael fy nghefnogi?”. Felly, roedd yn gwneud synnwyr cynnig cymorth i bobl greadigol Byddar sydd ar ddechrau eu gyrfa er mwyn iddynt allu symud ymlaen i'r cam nesaf yn eu datblygiad gyda’r gobaith y byddan nhw'n gallu arddangos eu doniau gwych ar lwyfan mwy. Mae’n gyfnod cyffrous iawn i fod yn greadigol Byddar yng Nghymru!”
Ychwanegodd Hannah Firth, Cyfarwyddwr Artistig Chapter: “Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi’r artistiaid sydd ar y rhestr fer ac sydd i gyd yn dod â syniadau cyffrous ac uchelgeisiol i’r rhaglen. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda nhw dros y misoedd nesaf i’w cefnogi i gymryd y camau pwysig nesaf yn eu gyrfaoedd proffesiynol.”
Gwybodaeth am y bobl greadigol
Mae Kate Evans yn ffotograffydd yn Abertawe sy’n gobeithio cysylltu pobl Fyddar ledled Cymru drwy ymchwilio i fodelau rôl pobl Fyddar. Bydd Kate yn gweithio ar lefel ddwys gyda chymunedau, gan gasglu eu straeon, a bydd y geiriau a'r delweddau aml-gyfrwng sy’n deillio o’r gwaith yn mapio eu teithiau unigol ac unigryw ledled y wlad.
Mae Maggie Hampton yn fardd ac yn awdur rhyddiaith sydd wedi’i lleoli ym Mhontypridd. Mae ei gwaith yn ymdrin â llu o brofiadau personol gan gynnwys byddardod, cael mewnblaniad yn y cochlea, byw a gweithio gyda Chi Clyw, bod yn nain, garddio, cerdded yng nghefn gwlad De Cymru, cariad, teulu, marwolaeth, Covid a mwy.
Mae Lloyd Miller yn ffotograffydd yng Nghasnewydd. Yn ddiweddar, mae Lloyd wedi arddangos collage newydd o 90 o ddelweddau agos sy’n cyfleu realaeth bywyd ac mae hefyd yn arbrofi gyda ffotograffiaeth twll pin. Bydd y fwrsariaeth yn ei alluogi i fuddsoddi mewn offer camera newydd ac i ddatblygu gwefan broffesiynol.
Mae Clara Newman yn artist gweledol ym Mangor. Mae ei gwaith yn cael ei ysbrydoli gan natur a’i lywio gan yr argyfwng hinsawdd. Yn fwyaf diweddar, mae hi wedi bod yn archwilio ffurfiau tri dimensiwn i roi llais i brofiad pobl Fyddar a chodi ymwybyddiaeth ynghylch rhwystrau i gyfathrebu.
Mae Levi Slade yn ddawnswraig ac yn focsiwr yng Nghasnewydd, ac mae ei gwaith yn archwilio hunaniaeth, perthyn a gwrthod derbyn. Mae hi’n awyddus i gefnogi ac i rymuso menywod ifanc B/byddar eraill, gan ddod â nhw at ei gilydd i fynegi eu profiadau drwy berfformiadau a rhaglen ddogfen fer.
Gwybodaeth am Hear We Are
Mae ‘Hear We Are’ yn brosiect dan arweiniad pobl Fyddar sy’n edrych ar safbwyntiau pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw, yn enwedig y rheini sy’n gweithio yn y sector creadigol neu sydd wedi’u heithrio ohono. Mae’n archwilio sut y gall safbwyntiau a phrofiadau cyfranogwyr ddod at ei gilydd i greu newid cadarnhaol, ac mae’r tîm yn gweithio i wella mynediad at y sector ar gyfer pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw drwy ddechrau deialog a chreu strwythurau cymorth a chyflwyno y mae angen mawr amdanynt.
Ers i’r prosiect ddechrau yn 2021, mae’r tîm, dan arweiniad yr artist perfformio Byddar a’r ymgynghorydd creadigol Jonny Cotsen, wedi gweithio gyda Chapter i sefydlu rhwydwaith o ofodau diogel lle gall pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw ledled Cymru gyfarfod, rhannu profiadau a phrofi syniadau creadigol. Drwy greu grwpiau rhanbarthol, dan arweiniad mentoriaid creadigol Byddar, mae’r tîm wedi helpu i feithrin ac i ddatblygu talent. Mae’n annog sector celfyddydau mwy hygyrch i bawb, gyda chyfranogwyr yn cael eu gwahodd i rannu eu profiadau uniongyrchol er mwyn llywio a siapio digwyddiadau.
Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod ym mis Mai, trefnodd y tîm ddigwyddiad tri diwrnod, ‘Deaf Together’, sef yr ŵyl gyntaf dan arweiniad pobl Fyddar yng Nghymru, a oedd yn arddangos doniau creadigol anhygoel pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw. Y gobaith yw y bydd yr ŵyl yn dod yn ddigwyddiad blynyddol gyda’r un nesaf wedi’i gynllunio ar gyfer mis Medi 2024.
Mae’r prosiect ar gael drwy gyllid Cysylltu a Ffynnu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a gyda chefnogaeth amrywiaeth o bartneriaid a chydweithwyr ledled Cymru.
Dilynwch @hearweare_ am ragor o newyddion