Ffilmiau yn Chapter 19 – 25 Mehefin
- Published:
Mae ffilmiau’r wythnos yma’n teithio ar draws galaethau, ffrwydradau folcanig a salonau disglair Paris y ddeunawfed ganrif.
Mae Lesbian Space Princess yn anfon y Dywysoges Saira ar sbloets gwiar, liwgar a bywiog ar draws y cosmos i chwilio am ei chariad sydd wedi’i herwgipio, tra bod Erupcja yn gadael Charli XCX yn Warsaw ar ôl i ffrwydrad folcanig chwalu ei chynlluniau rhamantus a’i hanfon i ymlwybro llofftydd, clybiau a lonydd tywyll.
Nes at adre, mae bywyd menyw ifanc yn cael gobaith o’r newydd ar ôl cwrdd â rhywun yn Effi o Blaenau, sy’n rhan o dymor Rip It Up y BFI i ddathlu 75 mlynedd o ddiwylliant ifanc.
Ac yn olaf, mae’r enillydd BAFTA Lesley Manville ac Aidan Turner yn serennu yn NT Live: Les Liaisons Dangereuses, sy’n gêm gyffrous o gariad, celwyddau a rhyfela cymdeithasol, wedi’i chyfarwyddo gan Marianne Elliott.