Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor
Two men adjust each other's black and white suits outside of an old university building.

Ffilmiau Chapter

17 – 30 Tachwedd

  • Published:

Croeso yn ôl twym i rai o’r ffilmiau gorau o’r Ŵyl Ffilm Llundain! Gan gynnwys Saltburn, sef ein ffilm rhiant a babi'r wythnos, yn ogystal i ffilm Todd Haynes May December sy’n serennu Natalie Portman a Julianne Moor, a’r ffilm gyffro The Royal Hotel.

Mae’r tymor BFI Powell a Pressburger yn parhau i’r gaeaf ac rydym yn edrych ar eithafon obsesiynol yn y sinema, wedi’i hysbrydoli gan ffilm Powell a Pressburger The Red Shoes. Fel rhan o’n cyfres Celf ac Obsesiwn rydyn yn dangos The King of Comedy gan Martin Scorsese a Phantom Thread gan Paul Thomas Anderson.

Ymunwch a’r cyfarwyddwr Paul Sng am sesiwn holi ac ateb arbennig am ei ffilm ddiweddaraf, Tish, ar Sadwrn 25 Tachwedd, neu os gennych chi blant bach dan 12 mis dewch i’n dangosiad rhiant a babi ar ddydd Gwener 24 Tachwedd am 11.30yb!

Nag ydych eisiau colli fas ar eich siawns i weld cipolwg o’r gyfres newydd o The Winter King wedi’i chynnal gan BAFTA Cymru ar ddydd Mercher 22 Tachwedd! Mae’r cipolwg wedi’i ddilyn gan sesiwn holi ac ateb gyda’r actor Iain De Ceastecker a gwneuthurwr Catrin Lewis Defis, a gynhelir gan Jane Tranter.