Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Film

Screchiwch fel y Mynnwch: Tish

Free

Coming soon

Nodweddion

Prydain | 2023 | 90’ | 15 | Paul Sng

Fe wnaeth y ffotograffydd a’r arloeswraig Tish Murtha ymroi ei bywyd i ddogfennu bywydau pobl dosbarth gweithiol yng ngogledd ddwyrain Lloegr. Gan adael ei chartref yng nghanol y saithdegau i astudio yn yr Ysgol Ffotograffiaeth Ddogfennol yng Nghasnewydd, dychwelodd i Newcastle i dynnu sylw at y caledi roedd llywodraeth Geidwadol y cyfnod wedi’i achosi i deuluoedd yno. Er i bŵer anferthol ei gwaith arwain at gwestiynau yn Nhŷ’r Cyffredin, cafodd ei gwthio i’r ymylon gan y gymuned Gelfyddydol, gan ei chael yn anodd cefnogi ei hunan a’i merch. Yn y portread teimladwy yma gan Paul Sng, gwelwn fywyd a gafodd ei fyw mewn creadigrwydd tanbaid, sy’n gadael gwaddol dylanwadol.

“Portread gafaelgar o ffotograffydd angerddol... teyrnged aruthrol a thrugarog i artist go iawn.”

- Peter Bradshaw, The Guardian

Bob bore Gwener

Dewch â’ch babi i’n dangosiadau ffilm wythnosol o ffilmiau newydd.

Mynediad am ddim i fabanod, amgylchedd ymlaciol, heb angen poeni am darfu - mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid sydd â babanod o dan flwydd oed.

Cofiwch: Dim baban, dim mynediad!

Share