Ffilmiau Chapter 24 Mai – 6 Mehefin

  • Published:

Mae’r uchafbwyntiau ffilm fis yma’n cynnwys cyfres o bum ffilm fer newydd, o’r enw Late Night Tales from Wales, gyda sesiwn holi ac ateb gyda gwneuthurwyr y ffilmiau, a’r penwythnos yma byddwn ni’n croesawu Watch Africa ’nôl i’r sinema.

Ar ben hynny, mae ’na raglen lawn dop o ffilmiau am ddim i’r teulu, ffilmiau newydd, a hen ffefrynnau fel Sgrechiwch fel y Mynnwch, Chapter Moviemaker a’r Clwb Ffilmiau Gwael.

Mae’r ddawnswraig Elena a’r dehonglydd iaith arwyddion Dovydas yn cwrdd ac yn ffurfio cysylltiad hyfryd yn ffilm nodwedd Marija Kavtaradze, Slow. Wrth iddyn nhw blymio i berthynas newydd, mae’n rhaid iddyn nhw lywio sut i ddatblygu math unigryw o agosrwydd pan fydd Dovydas yn rhannu ei hunaniaeth arywiol.

Ymunwch â ni am y stori chwerwfelys yn y ddogfen ffilm diweddaraf Catching Fire: Anita Pallenberg. Roedd Anita Pallenberg yn llenwi penawdau papurau newydd ar sawl adeg yn ei bywyd: yn "dduwies roc a rôl," yn "offeiriades fwdw", ac yn "hudoles ddieflig". Ond, roedd y rhai oedd yn ei charu yn ei gweld fel grym diwylliannol cyffrous ac yn fam annwyl, yn ddieuog o’r cyhuddiadau.

Mae emosiynau bellach yn fygythiad wrth i Gabrielle penderfunu puro ei DNA mewn peiriant a fydd yn ei thaflu i mewn i'w bywydau o'r gorffennol ac yn cael gwared a'i holl deimladau cryf. Wedi'i hysbrydoli gan nofela Henry James, The Beast of the Jungle, mae ffilm Bertrand Bonella The Beast yn ffilm ddiddorol a hynod ramantus wedi’i gosod mewn dystopia sydd wedi dileu’r posibilrwydd o gariad.

Watch Africa

Ers 2013, mae’r ŵyl ddeinamig yma wedi bod yn fwrlwm o gyfnewid diwylliannol. Gan gynnig llwyfan i waith gan gyfarwyddwyr ac artistiaid o Affrica, Affricanwyr ar wasgar, ac o Gymru a gweddill y byd, mae’n cynnig safbwyntiau o’r newydd ar Affrica o ran ei fywyd economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol. Ymunwch â ni ar gyfer ffilmiau, gweithgareddau a digwyddiadau sy’n edrych ar themâu eleni.

Darllenwch ymlaen i weld ein rhaglen ffilm llawn!

Digwyddiadur - cipolwg

Rydym yn newid i dudalen a fydd yn darparu'r holl wybodaeth byddwch chi angen ar gael ar unrhyw bryd.

Rydym yn cyflwyno ffordd newydd o fynedi ein rhaglen ffilmiau a digwyddiadau, gyda chanllaw digwyddiadau byw sy’n darparu gwybodaeth ddiweddaraf amdan y lleoliad, dyddiad, amser a gwybodaeth hygyrch am bob digwyddiad, gan gynnwys ffilm!

Dysgu mwy