Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

PRINTED FESTIVAL 2024

Dydd sadwrn mehefin 8fed a dydd sul mehefin 9fed — 11am-4pm — mynediad am ddim

Gyda chefnogaeth Canolfan Gelfyddydau Chapter, mae’r tour de force Print Wagon a’r Printhaus yn dychwelyd ar gyfer yr ail rownd o’r ŵyl printiedig!

  • Published:

BETH YW'R ŴYL?

Ar ôl lansio'r ŵyl yn llwyddiannus y llynedd, rydyn ni wedi sicrhau cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddod â gŵyl Printiedig ’24 fwy a gwell i chi!

Mae diwylliant printio Cymru’n gryf. Mae hygyrchedd y gelfyddyd yn apelio at ystod eang o wneuthurwyr, ac mae llawer o sefydliadau print profiadol yng Nghaerdydd a’r cyffiniau. Mae Treganna yn benodol wedi profi’n ganolbwynt ar gyfer stiwdios print-seiliedig a phrint-cyfagos. Mae ein gŵyl mewn sefyllfa berffaith yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, i ddod â'r busnesau hyn at ei gilydd am benwythnos i ddathlu’r printiedig.

Ein nod yw parhau i adeiladu ar y diwylliant presennol yn y de drwy greu'r fforwm newydd hwn ar gyfer artistiaid, sefydliadau ac addysgwyr fel ei gilydd. Bydd yr awyrgylch gŵyl yn galluogi pobl i wneud cysylltiadau, i rannu adnoddau, ac yn fodd i bawb gael cyfle a chyfranogi. Mae'r gymuned eisoes yn gryfach ers yr ŵyl y llynedd, ac rydyn ni’n llawn cyffro i gadw'r momentwm i fynd.

––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––

Cawsom ein syfrdanu an gan yr holl sylwadau cadarnhaol or ddigwyddiad llynedd, roedd yn wylaidd iawn! Fe wnaethon ni erfyn, dwyn, a benthyca a thaflodd pawb a gymerodd ran eu hunain i fewn i'r digwyddiad gydag angerdd di-ben-draw! Eleni rydym am ehangu a chysylltu â mwy o bobl greadigol a chreu profiad gwell fyth i ymwelwyr.(Tom - Y Printhaus)

Aeth yr Ŵyl Printiedig yn llawer gwell nag y gallwn i erioed fod wedi breuddwydio! Ar ôl blynyddoedd o gynllunio gyda Tom a Jude, llwyddwyd i greu gŵyl brint gynhwysol, ryngweithiol roedd yn addysgu ac yn ysbrydoli pobl i gymryd rhan mewn arferion creadigol. Cyn gynted a ddaeth y ddigwyddiad i ben, sylweddolom mae dim ond sylfaen i brosiect mwy roedd yr Ŵyl Printiedig, a chawsom ein hysbrydoli an gorfodi (!) i feddwl am ffyrdd newydd ac arloesol y gallem ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru au cyffroi i gwneud printiau. Felly eleni rydyn ni'n mynd yn fwy ac yn fwy beiddgar, gyda mwy o'r hyn aeth yn dda y llynedd a thriciau newydd a diddorol i fyny ein llewys ar gyfer eleni. Allwch chi ddim ei golli.” (Aidan – Print Wagon)

DROS BENWYTHNOS YR ŴYL

Dewch i ddarganfod beth yw print!

Bydd amrywiaeth enfawr o weithgareddau cyfeillgar i deuluoedd yn cael eu cynnal, wedi'u cynllunio i godi awch am bopeth print!

Bydd ‘llwybr gwneuthurwyr’ o stondinau artistiaid print yn gwau drwy’r ardal. Gallwch gymryd eich amser i dorchi llewys a rhoi cynnig ar y gweithgareddau printio, o risograff i brintio sgrîn, a phopeth rhwng y ddau. Beth am fentro i stiwdio Printhaus i weld arddangosiadau creu printiau byw. Os ydych chi am fodloni'ch chwilfrydedd ymhellach, archebwch le i glywed panel trafod sy'n ymchwilio'n ddwfn i waith gwneud printiau, neu wrando ar sgwrs gan un o'n gweithwyr argraffu proffesiynol.

Bydd y Tywyswyr Print ar hyd y lle drwy’r penwythnos - yn wynebau cyfeillgar i’ch cyfeirio chi, eich ffrindiau a’ch teulu i ble hoffech fynd.

Rydyn ni hefyd wrth ein boddau i gyflwyno cyhoeddiad Gŵyl Printiedig eleni, a fydd yn cael ei ryddhau yn y cyfnod cyn y digwyddiad. Bydd yn cynnwys gwybodaeth am y cyfranogwyr, y gweithdai cymunedol, map o'r digwyddiad, a rhai nwyddau eraill sy'n gysylltiedig â phrint hefyd!

Os ydych chi’n artist gweithgar, yn printio fel hobi, neu’n gwbl newydd i’r byd printio, mae GŴYL PRINTIEDIG yn siŵr o gynnig rhywbeth i chi – printiau hyfryd, cyfle i greu eich print eich hunan, cyfle i rwydweithio, a llawer mwy.

SIARADWYR WEDI'U CADARNHAU:

Tom Frost

Lena Yokoyama & Rory Wyn - Isshoo Collective

TRAFODAETH BANEL:

Cyflwynydd- Emma Marshman (USW)

Panel- Alice Prentice (Isle of Riso)

Panel - Catherine Ade (Lemonade Press)

BYDD Y STIWDIOS PRINT A’R GWNEUTHURWYR PRINTIAU YN CYNNWYS;