Gŵyl Printiedig 2024: Argraffu’n galetach!
- Published:
Bydd GŴYL PRINTIEDIG yn dychwelyd i Gaerdydd am ei hail flwyddyn, diolch i gyllid a chefnogaeth rydyn ni wedi’i sicrhau gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Chapter. Mae’n debyg y gallwn ni ddisgwyl mwy a gwell!
Canolfan Gelfyddydau Chapter, 8 - 9 Mehefin 2024, 11am-4pm: Penwythnos hwyliog, rhad ac am ddim i'r teulu i ddathlu popeth o fyd print.
Gwnaeth GŴYL PRINTIEDIG ei hymddangosiad cyntaf yng Nghaerdydd yr haf llynedd. Yn ffrwyth breuddwydion yr argraffwyr hynod brofiadol, Tom Whitehead (The Printhaus, Ed & Flo) ac Aidan Saunders (Print Wagon, Prints of Hay), mae eu cenhadaeth yn syml ond yn eangfrydig: adeiladu ar y diwylliant print presennol yn y de a gwneud y ffurf gelfyddydol yn hygyrch i bawb. “Bydd yr awyrgylch gŵyl yn galluogi pobl i wneud cysylltiadau, i rannu adnoddau, ac yn fodd i bawb gael cyfle a chyfranogi.”
Mae'r Printhaus wedi’i leoli yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Treganna. Rownd y gornel mae Cardiff Print Workshop a’r Print Market Project. Y 'triongl print', os mynnwch. Hefyd yn y cyffiniau mae The Amplifier Press, Prim Print, Neuadd Llanofer ac Oriel Canfas, i enwi ond ychydig o’r sefydliadau sy'n gysylltiedig â phrint sy'n rhan o’r gymuned argraffu leol.
Gyda'r sylfaen gadarn hon i adeiladu ohoni, yn ogystal â'r llu o aelodau sy'n ffurfio cymuned Printhaus, ni allai lleoliad GŴYL PRINTIEDIG fod yn fwy perffaith. Fel y mae’r gymuned hon wedi profi dro ar ôl tro, mae pawb yn torchi’u llewys i wneud yr ŵyl yn un mor llwyddiannus. Does dim byd ymhongar, a ffroenuchel am y criw yma. Mae eu hangerdd yn ddiffuant ac maent yn ei rannu fel rhan o’u bywoliaeth - GŴYL PRINTIEDIG sy’n dod â hyn oll ynghyd ac fe gawn ni ei fwynhau gyda'n gilydd.
"Cawsom ein syfrdanu gan yr holl sylwadau cadarnhaol o’r digwyddiad llynedd, roedd yn brofiad gwylaidd iawn i ni! Fe wnaethon ni erfyn, dwyn, a benthyca a thaflodd pawb a gymerodd ran eu hunain i fewn i'r digwyddiad gydag angerdd di-ben-draw! Eleni rydym am ehangu a chysylltu â mwy o bobl greadigol a chreu profiad gwell byth i ymwelwyr.” Tom - Y Printhaus
MAE GŴYL PRINTIEDIG 2, gyda'r slogan - 'Argraffu’n galetach!' - yn addo llawer o'r un peth a wnaeth y llynedd mor dda; stondinau, gweithgareddau, gemau, sgyrsiau a gweithdai cymunedol.
Hefyd fel rhan o'r digwyddiadau, bydd trafodaeth banel gyffrous gan weithwyr print proffesiynol, a chyhoeddiad unigryw rydyn ni’n cyfeirio ato fel Greal Sanctaidd holl wybodaeth Gŵyl Printiedig!
"Aeth yr Ŵyl Printiedig yn llawer gwell nag y gallwn i erioed fod wedi breuddwydio! Ar ôl blynyddoedd o gynllunio gyda Tom a Jude, llwyddwyd i greu gŵyl brint gynhwysol, ryngweithiol roedd yn addysgu ac yn ysbrydoli pobl i gymryd rhan mewn arferion creadigol. Cyn gynted ag y daeth y digwyddiad i ben, sylweddolom mae dim ond sylfaen i brosiect mwy roedd yr Ŵyl Printiedig, a chawsom ein hysbrydoli a’n gorfodi (!) i feddwl am ffyrdd newydd ac arloesol y gallem ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru a’u cyffroi i wneud printiau. Felly eleni rydyn ni'n mynd yn fwy ac yn fwy beiddgar, gyda mwy o'r hyn aeth yn dda y llynedd a thriciau newydd a diddorol i fyny ein llewys ar gyfer eleni. Allwch chi ddim ei golli." Aidan - Print Wagon
Yn ddathliad llawen o brint ar gyfer pobl greadigol a'r gymuned ehangach fel ei gilydd, nid yw GŴYL PRINTIEDIG yn un i'w cholli!
Ewch i wefan GŴYL PRINTED a chofrestrwch i'w cylchlythyr am ragor o wybodaeth, a'u dilyn ar Instagram a Facebook am y wybodaeth ddiweddaraf!
SIARADWYR WEDI'U CADARNHAU
Lena Yokoyama & Rory Wyn – Isshoo Collective
TRAFODAETH BANEL
Cyflwynydd - Emma Marshman (USW)
Panel - Alice Prentice (Isle of Riso)
Panel - Catherine Ade (Lemonade Press)
Mwy i ddilyn…
STIWDIO ARGRAFFU SYLW AC ARGRAFFUWYR SY'N DARPARU GWEITHGAREDDAU ARGRAFFU…
University of South Wales Illustration & Graphics Students
Dylan Barker Prints
Cardiff Met Print Shop
a llawer mwy...