Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Art

Artes Mundi 10

Free

Nodweddion

Gyda’i bartner cyflwyno, Sefydliad Bagri, bydd Artes Mundi 10 (AM10), prif wobr celf gyfoes ryngwladol ac arddangosfa eilflwydd y DU, am y tro cyntaf yn cyflwyno saith o artistiaid gweledol cyfoes rhyngwladol ar draws pum partner lleoliad yng Nghymru ar gyfer ei ddegfed rhifyn. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 20 Hydref 2023 a 25 Chwefror 2024 a bydd enillydd Gwobr nodedig Artes Mundi, sy’n werth £40,000 – gwobr celf gyfoes fwyaf y DU – yn cael ei gyhoeddi yn ystod y cyfnod arddangos.

Yn AM10 bydd pob artist yn cyflwyno prosiect unigol mawr, gan gynnwys cynyrchiadau newydd, gwaith nas gwelwyd o’r blaen a chyfle i weld sawl arddangosfa am y tro cyntaf yn y DU. Mae rhai artistiaid yn cyflwyno ar draws nifer o leoliadau, a bydd gan bob artist waith mewn lleoliad yng Nghaerdydd.

Dyma leoliadau arddangos yr artistiaid ar gyfer AM10: Mounira Al Solh, Rushdi Anwar ac Alia Farid yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd (un yn nheulu Amgueddfa Cymru – Museum Wales o amgueddfeydd); Nguyễn Trinh Thi yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe a Chapter, Caerdydd; Taloi Havini ym Mostyn, Llandudno a Chapter, Caerdydd; Carolina Caycedo yn Oriel Davies, y Drenewydd a Chapter, Caerdydd; a Naomi Rincón Gallardo yn Chapter, Caerdydd.


Dangosiad Arddangosfa Ymlaciol

Mae sesiynau ymlaciol i weld ein harddangosfa ddiweddaraf ar gael bob pythefnos ar yr adegau isod. Yn ystod y sesiynau yma, mae’r goleuadau yn yr oriel yn cael eu codi ychydig, ac mae sain y fideos yn is. Does dim angen archebu.

Dydd Sadwrn 23 Rhagfyr 11.00am - 12.30pm

Dydd Mercher 3 Ionawr 3.30pm – 5.00pm

Dydd Sadwrn 20 Ionawr 11.00am - 12.30pm

Dydd Mercher 31 Ionawr 3.30pm – 5.00pm

Dydd Sadwrn 10 Chwefror 11.00am - 12.30pm

Dydd Mercher 21 Chwefror 3.30pm – 5.00pm


Carolina Caycedo

Ganwyd yn y Deyrnas Unedig i rieni o Golombia. Mae hi’n byw ac yn gweithio yn UDA.

Mae Carolina Caycedo yn artist amlddisgyblaethol sy’n adnabyddus am ei fideos, llyfrau artist, cerfluniau a gosodweithiau sy’n ymdrin â materion amgylcheddol a chymdeithasol. Yn Oriel Davies yn y Drenewydd, bydd Caycedo yn cyflwyno cyfres o weithiau hen a newydd gan gynnwys dangosiad cyntaf y fideo, Fuel to Fire (2023). Mae hyn yn cyflwyno’r gwyliwr i pagamento, sef protocol sylfaenol ecolegol ac economaidd cynhenid, sy’n cynnal llif a chydbwysedd cylchoedd bywyd ar y ddaear ar sail dwyochredd. Hefyd, cyflwynir y gyfres gysylltiedig Fuel to Fire: Mineral Intensive (2022 ac yn parhau), lluniadau pensil lliw newydd ar raddfa fawr o gyfres sy’n canolbwyntio ar arferion echdynnu a’u heffaith ar y tir. Mae proses a chyfranogiad yn ganolog i ymarfer Caycedo – gan ddefnyddio gwybodaeth hysbys a fframweithiau brodorol a ffeministaidd, mae’n gwahodd gwylwyr i ystyried cyflymder anghynaliadwy twf o dan gyfalafiaeth a sut y gallem wrthsefyll hynny mewn undod. Yn My Female Lineage of Environmental Struggle (2018 i’r presennol), mae dros 100 o bortreadau o amgylcheddwyr benyw o bob cwr o’r byd, gan gynnwys menywod a gymerodd ran yng ngorymdaith Comin Greenham, yn cael eu hargraffu ar faner tecstil fel rhan o’r gyfres Geneology of Struggle a fydd yn eistedd ochr yn ochr â detholiad o faneri gwreiddiol Gwersyll Heddwch Menywod Comin Greenham o gasgliadau’r DU. Gan gysylltu â’r gwaith yn Oriel Davies, bydd Caycedo yn cyflwyno gwaith newydd o’i phrosiect amlgyfrwng Be Dammed (2012 ac yn parhau) yn Chapter, Caerdydd. Wedi’i leoli yn y blwch golau uwchben mynedfa’r adeilad, mae’r gwaith delweddau a thestun mawr yn edrych ar effaith argaeau trydan dŵr a phrosiectau seilwaith mawr eraill ar

Taloi Havini

Ganwyd yn Bougainville, llwyth Nakas/Haká. Mae hi’n byw ac yn gweithio yn Awstralia.

Mae Taloi Havini yn artist amlddisgyblaethol sy’n defnyddio amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys ffotograffiaeth, sain-fideo, cerfluniaeth, gosodwaith ymdrochol ac argraffu, er mwyn edrych ar y cysylltiadau rhwng hanes, hunaniaeth, ac adeiladu cenedl o fewn strwythurau cymdeithasol mamlinachol ei man geni, Rhanbarth Ymreolaethol Bougainville. Yn Oriel Mostyn yn Llandudno, bydd Havini yn cyflwyno gosodwaith fideo ymdrochol mawr, Habitat. Bydd yn cael ei ddangos am y tro cyntaf yn y DU fel gwaith tair-sianel, ac mae’n parhau â’i hymchwiliad parhaus i etifeddiaeth echdynnu adnoddau a pherthynas anodd Awstralia yn y Môr Tawel. Bydd Havini hefyd yn cyflwyno gwaith newydd, Where the rivers flow, (Panguna, Jaba, Pangara, Konawiru), cyfres o ddeugain o brintiau sydd wedi’u hechdynnu o archifau ffilm yr artist yn dilyn ei siwrnai drwy ganol ynys drofannol Bougainville. Yn Chapter yng Nghaerdydd bydd Havini yn cyflwyno rhagor o waith ffotograffig newydd sy’n cynnwys murlun a thri blwch golau, o’r enw Hyena (day and night).

Naomi Rincón Gallardo

Ganwyd yn UDA. Mae hi’n byw ac yn gweithio ym Mecsico.

Mae Naomi Rincón Gallardo yn artist gweledol ac yn ymchwilydd. O safbwynt anhrefedigaethol-cwiar, mae ei gwaith yn mynd i’r afael â chreu gwrthfydau mewn sefyllfaoedd neo-drefedigaethol. Yn ei gwaith, mae’n integreiddio ei diddordebau mewn gemau theatr, cerddoriaeth boblogaidd, cosmolegau Mesoamericanaidd, ffuglen ddyfaliadol, gweithgareddau a chrefftau brodorol, ffeministiaethau anhrefedigaethol a phobl gwiar o liw. Yn Chapter yng Nghaerdydd, bydd Gallardo yn cyflwyno’r perfformiad cyntaf o driawd o waith fideo newydd yn y DU – Verses of Filth (2021), Sonnet of Vermin (2022) ac Eclipse (2023). Maent yn edrych ar fythau Mesoamericanaidd fel ffyrdd amgen o ddeall realiti, gan gydblethu ffeithiau, ffuglen a ffrithiant er mwyn creu man sy’n bodoli rhwng profiadau iwtopaidd radical a ffantasi swreal. Ochr yn ochr â’r gosodwaith fideo, bydd cyfres o frasluniau dyfrlliw, gwisgoedd a phropiau cerfluniol o’r fideos dan sylw, gan gynnwys masgiau, gwisgoedd a pharaffernalia wedi’u hanimeiddio â golau ac animatroneg.

Nguyễn Trinh Thi

Fe’i ganwyd yn Fietnam ac mae’n parhau i fyw a gweithio yno.

Mae Nguyễn Trinh Thi yn wneuthurwr ffilmiau ac artist o Hanoi. Gan groesi ffiniau rhwng celf ffilm a fideo, gosodweithiau a pherfformio, mae ei gwaith ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar bŵer sain a gwrando, a’r cysylltiadau lluosog rhwng delwedd, sain a gofod. Mae ei gwaith yn archwilio hanes, cof, cynrychiolaeth, ecoleg a’r anhysbys. Yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe, bydd Trinh Thi yn ail-gyflwyno’r ffilm And They Die a Natural Death (2022), a gafodd glod gan feirniaid, a ddangoswyd yn wreiddiol fel rhan o Documenta 15 yn 2022. Yma, mae wedi cael ei had-drefnu ar gyfer lleoliad oriel. Wrth wneud y gwaith, cafodd Trin Thi ei ysbrydoli gan y nofel hunangofiannol Tale Told in the Year 2000 (2000) gan Bùi Ngọc Tấn, sydd ar hyn o bryd wedi’i sensora yn Fietnam. Gan adlewyrchu golygfa o’r llyfr, mae’r gwaith yn cynnwys system gwynt a wi-fi sydd wedi’i gosod yn ardal Vinh Quang-Tam Da yn Fietnam sy’n sbarduno’r gwaith o osod ffaniau cerfluniol, effeithiau clyweledol, sain, planhigion tsili a’r chwarae hiraethus ar ffliwt sáo ôi, offeryn cerddorol brodorol sy’n cael ei ddefnyddio gan grwpiau yn ardaloedd mynyddig gogledd y wlad. Mewn amser real, mae coedwig ymdrochol llawn cysodion ar waliau’r oriel o’ch cwmpas yn cysylltu’r gofod yn Abertawe â choetir Fietnam. Ochr yn ochr â’r gosodwaith yng Nglyn Vivian, bydd Trinh Thi yn dangos cyfres o ffilmiau yn y sinema yn Chapter yng Nghaerdydd ac mewn digwyddiad arbennig yng Nglyn Vivian.

Er sylw, mae rhai ffilmiau yn yr arddangosfa yma’n cynnwys:

  • Goleuadau’n fflachio, ac felly mae’n bosib nad yw’n addas i bobl ag epilepsi ffotosensitif
  • Cynnwys nad yw’n addas o bosib i blant dan 12 oed
  • Sŵn uchel yn achlysurol

Mae’r gwrthrychau yn yr arddangosfa yn fregus, peidiwch â’u cyffwrdd.

Share