Film
Sain Ffagan 75: John Meirion Rea - Atgyfodi
- 1h 0m
Nodweddion
- Hyd 1h 0m
Ymunwch â ni mewn digwyddiad arbennig sy’n dathlu Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn 75, a myfyrio ar y cyd-berthyn, y gwaddol, a’r hanesion cudd yn Atgyfodi gan John Meirion Rea o 2018, wedi’i rhannu drwy brofiad sinematig llawn Sinema 1 am y tro cyntaf. Ar ôl dangos y gwaith, bydd John Meirion Rea yn sgwrsio â’r darlledwr, darlithydd ac awdur clodwiw Jon Gower, i drafod y deunydd, y broses a themâu Atgyfodi.
Bydd y sgwrs yma yn Gymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd i’r Saesneg.
Amdan Atgyfodi
Yn ein harchifau yr ydym yn cadw a chasglu ein straeon - y personol a’r Cenedlaethol; boed hynny ar bapur, silindr Edison, shellac, feinil, tâp, ffilm neu ddisg galed, y rhain yw gweadau’r cof, hanes, diwylliant, perthyn a’n hunaniaeth.
Mae Atgyfodi yn cyflwyno lleisiau a recordiadau coll o archifau sain Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan trwy gyfrwng gosodweithiau trwythol sy’n cyfuno sain amgylchynol, delweddau a ffeindiwyd a rhai a ffilmiwyd yn benodol. Wrth blethu’r rhain gyda chyfansoddiadau cerddorol cyfoes, caiff y lleisiau a’r recordiadau, a’r hyn y maent yn ei gynrychioli, eu dychwelyd i gof y genedl. Caiff y caneuon a’r straeon eu gweu fel ‘collage’ gyda recordiadau maes a wnaed yn safleoedd gwreiddiol adeiladau’r amgueddfa. Ceir hefyd recordiadau gwreiddiol o leisiau pobl a llefydd eiconig neu leisiau o bwysigrwydd symbolaidd fel Tyrone O’Sullivan o Bwll Glo Tower a’r ffermwr Arthur Morris Roberts, a welodd foddi Capel Celyn pan roedd yn fachgen ifanc.
Mae Atgyfodi yn bwrw golau ar gyfoeth traddodiad cerddorol Cymru: Caneuon a straeon sy’n cael eu canu a’u hadrodd gan bobl go iawn. Fe ddylanwadodd gweadau a seiniau’r bywydau yma ar arddull gyfansoddiadol y gerddoriaeth a phroses greu’r project. Wrth galon y cyfan roedd yr alawon traddodiadol, y farddoniaeth a rhythmau soniarus yr iaith lafar.
Wrth greu cyfansoddiadau mewn ymateb i hyn ac yn ffrâm gerddorol o’u cwmpas, mae’r caneuon gwreiddiol yn datblygu’n felodig a harmonig. Mae lle yma hefyd i gerddorion cyfoes sy’n defnyddio offerynnau traddodiadol Cymreig i ail-ddehongli a byrfyfyrio. Wrth hynny, mae’r ‘cylch’ creadigol yn cael ei gwblhau gan gynnig ail-ddehongliad o hen draddodiadau.
Cyflwynir Atgyfodi gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, perfformiadau ar y crwth, y pibgorn, y ffidil a’r chwiban gan Cass Meurig a Patrick Rimes, a lluniau a delweddau a ffilmiwyd yn arbennig gan Huw Talfryn Walters.
Amdan John Meirion Rea
Cyfansoddwr ac artist sain yw John, wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Mae ei waith wedi ei wreiddio’n ddwfn yn niwylliant a thirwedd Cymru ac mewn cysylltiadau a chydweithrediadau traws-ddiwyllianol. Ymateb i le, cymuned a chwilota arddull newydd rhyngddisgyblaethol o gyflwyno sy’n mynd â’i fryd.
More at Chapter
-
- Film
Mr Burton (12A)
The moving story of how wild Richie Jenkins became one of the greatest actors in the world.
-
- Film
Blue Road: The Edna O’Brien Story (12A)
At the close of her adventurous life, the controversial writer reflects on her experience.
-
- Film
Sgrechiwch fel y Mynnwch: The Penguin Lessons (12A)
The true story of an Englishman teaching in Argentina who develops a strange friendship.
-
- Film
The Return (15)
After 20 years away, Odysseus must win back his wife, his kingdom and his honour.