Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Film

Banel & Adama (12A)

  • 1h 27m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 27m

Senegal | 2023 | 87’ | 12A | Ramata-Toulaye Sy | Pular gydag isdeitlau Saesneg | Khady Mane, Mamadou Diallo

Mae Banel ac Adama mewn cariad tanbaid. Maen nhw’n chwilio am gartref gyda’i gilydd, ac yn penderfynu ffurfio bywyd ar wahân i’w teuluoedd ymwthgar. Ond, bydd symud o’r pentre’n golygu y bydd Adama’n rhoi’r gorau i’w ddyletswydd gwaed fel darpar Bennaeth, ac mae’r cyngor yn anhapus. Mae’r gymuned yn aros yn eiddgar i’r tymor newid er mwyn i’r tir ddod yn ffrwythlon unwaith eto, ond nid yw’r glaw’n dod. Wrth i bethau ddod yn anobeithiol, mae'r cyngor yn beio'r cwpl. Chwedl glòs a thrawiadol am effeithiau emosiynol ac ymarferol newid hinsawdd ar angerdd pobl. Dyma ffilm nodwedd gyntaf y cyfarwyddwr, a’r ail ffilm erioed gan fenyw Ddu i gystadlu yn Cannes yn ei hanes o 76 mlynedd, a chaiff ei pherfformio’n anhygoel gan gast nad yw’n broffesiynol a’i saethu ar leoliad yn Senegal yn 2022.

Share